Wedi’i ysgrifennu gan Chris Nicholls, Cynghorydd Jobs Growth Wales Plus

Mae’n dod i’r adeg yna o’r flwyddyn lle mae pobl yn myfyrio. I lawer o bobl mae’n adeg lle gall ffocysu arwain at ganlyniadau a pherfformiad. Yn aml, mae’n adeg lle mae arholiadau wedi bod, mae pobl yn aros am ei ganlyniadau, ac mae’n gallu bod yn adeg o ansicrwydd o ran lle rydych chi nawr, a beth sydd nesaf. Gall gweld y rhai sydd o’n gwmpas ni cael ei effeithio gan hyn, creu effaith arnom ni ein hunan, hyd yn oed pan dydy o ddim yn effaith uniongyrchol. Gall hyn i gyd cael effaith anferth ar sut rydyn yn barnu ein hunan ac ein hunan hyder. 

Mae Geiriadur Cambridge yn diffinio hyder fel ‘teimlad o ddiffyg amheuaeth am eich hunan neu eich galluoedd’. Pan mae’na gymaint o bwyslais ar rifau, graddau a phwysau i berfformio mewn ffordd benodol, mae’n gallu bod yn anodd peidio amau eich hunan weithiau. Ond pan edrychwn yn agosach at ddiffiniad y gair, dydy o ddim yn deud bod rhaid i chi weithio mewn ffordd benodol, dim ond i gael diffyg amheuaeth yn eich galluoedd… neu efallai i gael ffydd yn eich galluoedd. 

Dyfyniad rwy’n hoffi’n fawr ar y pwnc yma ydy un o ddyn o’r enw Guy Gavriel Kay. Os dydych chi ddim yn gyfarwydd gyda fo, wnaeth o helpu Christopher Tolkien (mab J.R.R Tolkien) i olygu’r Silmarillion (y sylfaen a’r rhagflaena i’r gyfres Lord of The Rings). Dywedodd o ‘does’na ddim troadau anghywir, dim ond llwybrau doedden ni ddim yn gwybod roedden ni fod i gerdded’. Dwi’n credu’n gryf bod hyn yn hynod o wir. 

Er enghraifft, wnaeth Walt Disney cychwyn tynnu lluniau o natur oherwydd roedd ei Dad yn gallu bod yn flin, a bydd yn arwain at gamdriniaeth ar lafar neu gorfforol. Roedd tynnu lluniau yn ddihangfa iddo fo, cyn gwnaeth o redeg i ffwrdd o artre i ymuno a’r fyddin. Wnaeth yr angerdd yna siapio gymaint o fywydau a hyd yn oed y byd o’n cwmpas blynyddoedd wedyn. Y pwynt yw nad oedd ganddo fo fap o beth roedd o eisiau gwneud, dim ond rhywbeth oedd yn golygu llawer iddo fo a pharodrwydd i ddilyn llwybr gwahanol.   

Mae’r Gymdeithas Seicolegol Americanaidd (CSA) yn nodi bod gwydnwch yw’r broses a’r canlyniad o addasu’n llwyddiannus i brofiadau anodd neu brofiadau sy’n newid bywyd. Yn yr ystyr hwn, efallai na fydd o reidrwydd yn ymwneud â’r digwyddiad neu’r anhawster yr ydym yn dod ar draws, ond yn hytrach ein gallu i addasu ac i ddyfalbarhau drwyddo. Gallai na fod cymaint o bwysau i wybod beth yn union rydyn ni eisiau gwneud gyda’n bywyd i gyd, a gall hynny meddwl cael ein profi a’n rhoi fan bwysau llawer, ar adeg mor ddwys ag anodd yn ein bywydau. Ond os gallwn ymateb i hynny, os gallwn addasu… yna gallwn hefyd fod yn wydn.   

Mae hyn yn ymwneud llawer a hyder. Hyder ydy i gredu yn ein hunan ac ein galluoedd, lle mae gwytnwch yn gofyn i ni gael hyder yn ein gallu i ymdopi. Felly, y neges dwi eisiau anfon ydy hyn. Gall hwn fod yn gyfnod arbennig o fyfyriol, sy’n ysgogi’r meddwl, a hyd yn oed yn anodd i lawer. Ond dydy o ddim yn gorfod rheoli popeth i ni. Os oes gennym hyder yn ein gallu i ymdopi wedyn bydd yna wastad llwybrau eraill gallem gymryd, hyd yn oed pan doedden ni ddim yn disgwyl i fynd i lawr nhw yn y lle cyntaf.   

Rhan enfawr o genhadaeth Itec ydy i gynnig llwybr arall i ddysgwyr, ac i gynnig arweinyddiaeth sy’n gallu goleuo llwybr newydd i fyny.   

Rwy’n cyfaddef bod y darn yma bach fel Jurassic Park mewn ffordd ‘mae bywyd yn ffeindio trywydd’. Ond i ddyfynnu De Alan Grant, Sam Neill ei hunan… ‘Rydych chi’n unigryw. Dim ond un ohonoch chi sy’n bodoli. A dyna chi reit fanna, reit yma, er gwell neu waeth. Ond does’ na ddim er gwell na gwaeth. Mae ’na ddim ond chi’. Ar ôl darllen hyn cofiwch un neges, chi sy’n unigryw, mae eich stori yn unigryw, a does ‘na ddim un llwybr penodol i chi. Hyd yn oed pan mae pethau’n teimlo’n anodd, hyd yn oed oes mae ’na rywbeth sy’n teimlo fel methiant, mae eich stori yn parhau ac mae llwybrau eraill yna. Felly, trin eich hunan fel unigryw, cadwch ffydd yn eich galluoedd a pharhewch i ysgrifennu eich stori, un sydd wir yn meddwl rhywbeth arbennig i chi. 

    Sut Gallwn Ni Helpu Chi

    Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

    Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

    Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

    Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

    Prentisiaethau i Bawb

    Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.