Prentisiaethau
Cymru
Lloegr
Cwestiynau Cyffredin
Beth ydy Prentisiaeth?
Mae Prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol swydd gydag addysgu.
Fel prentis byddwch yn:
- Gweithiwr sy’n ennill cyflog ac yn derbyn tal gwyliau
- Gweithio ochr yn ochr â staff profiadol
- Derbyn sgiliau swydd benodol
- Treulio amser o dan hyfforddiant ac yn astudio amdan eich swydd (o leiaf 20% o’ch oriau gwaith).
Pa mor hir ydy prentisiaeth?
Gall prentisiaethau parau 8 mis hyd at 6 blwyddyn, yn dibynnu ar y math a lefel o brentisiaeth.
Gydag Itec, yn dibynnu ar y sector a’r swydd, mae prentisiaeth fel arfer yn barau 12 i 18 mis i gwblhau.
Yn Lloegr, nid yw hyn yn cynnwys yr Asesiad Pwynt Diweddglo.
Sut mae prentisiaeth yn cael ei ariannu?
Yng Nghymru mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r rhan fwyaf cost hyfforddiant tra bod y cyflogwr yn talu am gyflog y prentis.
Yn Lloegr, mae prentisiaethau’n cael eu hariannu drwy’r Ardoll Prentisiaethau ar gyfer cyflogwyr sy’n talu ardollau, neu sydd wedi’u hariannu ar y cyd ar gyfer cyflogwyr nad ydynt yn rhan o’r farchnad (yn amodol ar gymhwystra).
Ydw i’n gallu gwneud prentisiaeth?
Pam dewis Itec?
“Gydag Itec rwyf wedi mynd trwy gamau gwahanol o gymwysterau o Lefel 2 i Lefel 5, nid yn unig ydy o wedi rhoi dealltwriaeth i fi, mae o hefyd wedi rhoi cydnabyddiaeth i fi a sylfaen dda ym myd arweinyddiaeth y maes gofal iechyd a chymdeithasol.”
“Rwyf wedi synnu ar sut gymaint mae fy mhrentisiaid wedi tyfu yn eu hyder mewn 3 mis. Mae o wedi bod yn bleser i weld nhw’n datblygu sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu a byddwn yn argymell prentisiaeth mewn gwasanaeth cwsmer yn gryf.”
“Mae ein staff yn defnyddio’r sgiliau wnaethant ddysgu gydag Itec yn gyson yn ei swyddi pob diwrnod, hwnna ydy’r ganmoliaeth gorau.”
“Wnaeth y brentisiaeth helpu fi gwneud y newid o arweinyddiaeth weithredol i arweinyddiaeth fwy strategol. Rwyd wedi datblygu dealltwriaeth a hyder gwell i greu newid a sicrhau uchelgais hirdymor ForFarmers.”
Dilynwch Ni Ar-Lein
Mae ein canolfannau’n llawn gweithgareddau yr ydym yn wrth ein bodd yn rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni rŵan.
Ein Cleientiaid Prentisiaethau
















