ITEC SGILIAU A CHYFLOGAETH

Amdanon Ni

Pwy Ydym Ni

Am fwy na 40 mlynedd, mae Itec wedi helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau, eu gyrfaoedd a’u dyfodol. Trwy raglenni dysgu ymarferol o safon uchel, rydym yn galluogi unigolion i symud ymlaen yn hyderus.

 

Yn Eiddo i’r Gweithwyr ac yn Annibynnol

Ym mis Chwefror 2019, daethom yn gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr. O ganlyniad, fe wnathom ddod yn ddarparwr annibynnol cyntaf yng Nghymru i wneud y newid pwysig hwn. Ers hynny, mae 100% o’r busnes yn eiddo i’r pobl. Yn ogystal, mae hyn yn rhoi ein gweithwyr yng nghanol popeth a wnawn. Mae o hefyd yn sicrhau annibyniaeth Itec am genedlaethau i ddod.

Darllenwch mwy am Ein Perchnogaeth i Weithwyr.

 

Darparwr Dysgu Arweiniol

Heddiw, rydym ymhlith y darparwyr dysgu yn y gweithle mwyaf, ac amrywiol yn y DU.

O ganlyniad, gallwn gefnogi dysgwyr a chyflogwyr ar draws sawl sector, gan greu cyfleoedd i dyfu lle bynnag y bo angen.

 

Twf ac Ehangiad

Er mwyn adeiladu ar ein sylfaen gref, fe wnaethom gaffael y Ganolfan ar gyfer Strategaeth a Chyfathrebu yn 2014. Roedd y cam strategol hwn yn ein galluogi i arallgyfeirio i hyfforddiant masnachol ar gyfer unigolion a chyflogwyr ledled y DU a thu hwnt.

Nesaf yn 2021,fe wnaethom uno ein holl fusnesau o dan frand Itec. O ganlyniad, rydym wedi cryfhau ein hunaniaeth ac wedi creu platfform mwy unedig i ddarparu gwerth ac effaith well.

 

Datganiad Cenhadaeth

Rydym ar genhadaeth i ysbrydoli unigolion i gyrraedd eu potensial llawn. I ni, mae’n bersonol – mae bod 100% yn eiddo i’n gweithwyr yn golygu rydym yn rhoi 100% i bob unigolyn rydym yn gweithio efo.

This is the empowerment value in Welsh
This is the passion for learning value in Welsh
This is the inclusion value in welsh
This is the welsh version of the growth value

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

“Rwy’n rhyfeddu ar sut gymaint mae fy mhrentisiaid wedi magu hyder mewn dim ond 3 mis. Mae eu gwylio’n datblygu eu sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu wedi bod yn bleser a byddwn yn argymell prentisiaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid yn fawr.”

Leighton Channing, EE

“Wrth ymuno ag Itec ces i’r cyfle i ddarganfod fy opsiynau gyrfa. Llwyddais i ennill cymwysterau a phrofiad gwaith sydd wedi rhoi golwg gadarnhaol i mi o fy nyfodol ac sydd wedi helpu fy hyder i dyfu. Rwyf hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd y byddaf yn cadw mewn cysylltiad â nhw am byth.”

Chloe Westgarth (TSC+)

“Ers i mi ddechrau’r cwrs mae’r gefnogaeth gan fy nhiwtoriaid wedi bod yn anhygoel. Maen nhw’n cynnig hyfforddiant un i un ac anogaeth wych bob cam o’r ffordd.”

Christopher Britton (Prentisiaethau)

Darganfod Ein Canolfannau

Hyfforddiant Ymroddedig – cefnogi dysgwyr

Ein Achrediadau