Cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus

Cyrsiau hyfforddiant deinameg ar gyfer timau neu unigolion

Adeiladu arweinwyr cryf ar gyfer busnes cryfach

hyd at 90% o gostau wedi’i thalu ar gyfer cyflogwyr Llundain

Gwella gyrfaoedd gyda dysgu yn y gweithle

yng Nghymru ac yn Lloegr

Ysgogi sgiliau a phrofiad yn y gweithle

ar gael i’r rhai sy’n 16-19 mlwydd oed

Dysgu yn y Gweithle a Ariennir

Mae prentisiaethau yn cyfuno hyfforddiant ymarferol yn y gweithle gyda chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol o Lefel 2 i 5. Wedi’i ariannu yng Nghymru (Llywodraeth Cymru) a Lloegr (ardoll), maent yn cynnig ffordd gost-effeithiol i unigolion adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus wrth iddynt helpu busnesau datblygu a chadw gweithlu medrus sy’n barod am y dyfodol.

Cyfleoedd ar Gyfer Talent Lleol

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen addysg sy’n rhoi dysgwyr 16 i 19 mlwydd oed y sgiliau a’r profiad sydd angen arnynt i sicrhau cyflogaeth neu i symud ymlaen i Brentisiaeth neu ddysgu ychwanegol yn y dyfodol. Gan gynnig lleoliadau, mae cyflogwyr yn cefnogi talent leol ifanc ac yn gallu creu ffrwd o weithwyr brwdfrydig yn y dyfodol.

Datblygiad Proffesiynol

Darparwn nifer eang o gyrsiau hyfforddiant arweinyddiaeth a chyfathrebu masnachol sydd wedi ei dylunio i adeiladu ar sgiliau’r gweithle a chefnogi datblygiad proffesiynol parhaus. Gyda chyrsiau ar gael i unigolion, timau a gweithluoedd llawn, mae ein pecynnau hyfforddiant hyblyg yn uwchsgilio pobl, yn gwella perfformiad, ac yn helpu cyflawni canlyniadau busnes mesuradwy.

A red icon of an outline of someone's head. It has a book overlapping the right side of the head. This is to represent information being received and processed into ones brain.

Bŵtcamp Sgiliau Gwerthfawr

Wedi’i dylunio ar gyfer rheolwyr a darpar arweinwyr, mae ein rhaglen Arweinyddiaeth a Hyfforddiant Lefel 4 60 awr sy’n cael ei darparu gan arbenigwyr diwydiannol yn helpu cyfranogwyr sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal Awdurdod Llundain Fwyaf datblygu sgiliau, hyder ag agwedd hyfforddiant sydd ei angen arnynt i arwain timau sy’n perfformio i lefel uchel a chefnogi llwyddiant hirdymor busnes.

Amdanom Ni

Mae Itec wedi bod yn arweinydd dysgu yn y gweithle am dros 40 mlynedd.

Mae Itec yn cynnig rhaglenni hyfforddiant amrywiol, prentisiaethau a mwy, ac yn dal contractau allweddol yng Nghymru a Lloegr.

Fel cwmni sy’n eiddo i weithwyr, rydym yn blaenoriaethu trawsnewid bywydau trwy addysg, cyflogaeth a datblygu sgiliau. Rydym yn cefnogi unigolion a sefydliadau drwy alinio ein rhaglenni ag anghenion cyflogwyr lleol, gan sicrhau canlyniadau ystyrlon a chynaliadwy.

Ein cenhadaeth yw gwneud dysgu yn ystyrlon, yn effeithiol ac yn gynaliadwy i bawb.

Barn ein cwsmeriaid

“Rwy’n rhyfeddu ar sut gymaint mae fy mhrentisiaid wedi magu hyder mewn dim ond 3 mis. Mae eu gwylio’n datblygu eu sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu wedi bod yn bleser a byddwn yn argymell prentisiaeth mewn gwasanaeth cwsmeriaid yn fawr.”

Leighton Channing, EE

“Mae fy nhaith gydag Itec wedi agor fy llygaid i’r posibilrwydd o siapio fy nyfodol a llwyddo ynddi. Roeddwn i’n arfer ofni bod yn yr ysgol nes i mi gael y cyfle i’w weld o safbwynt athrawon. Rydw i’n deall nawr sut roeddwn i eisiau cael fy nysgu, ac rydw i’n awyddus i ddefnyddio fy mhrofiad i helpu pobl eraill fel fi pan oeddwn i yn yr ysgol ac addasu i’w hanghenion addysgu.”

Jack Stevens, Dysgwr TSC+

“Wrth ymuno ag Itec ces i’r cyfle i ddarganfod fy opsiynau gyrfa. Llwyddais i ennill cymwysterau a phrofiad gwaith sydd wedi rhoi golwg gadarnhaol i mi o fy nyfodol ac sydd wedi helpu fy hyder i dyfu. Rwyf hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd y byddaf yn cadw mewn cysylltiad â nhw am byth.”

Chloe Westgarth, Dysgwr TSC+

“Ers i mi gychwyn, mae’r gefnogaeth o fy nhiwtoriaid wedi bod yn fendigedig. Man nhw’n cynnig hyfforddiant un i un ag anogaeth wych ar bob cam.”

Christopher Britton, Prentis

Datblygwch Eich Hun!

Rydym yn helpu gweithwyr proffesiynol i gymryd y cam nesaf

Ein Ymrwymiad Cymraeg

Mae llawer o fanteision i wneud prentisiaeth neu gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys:

✅Mae’r Gymraeg yn sgil gwaith gwerthfawr
✅Yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd newydd
✅Eich helpu i ddarganfod ac ymgysylltu â’ch cymuned leol
✅Gallwch chi fod yn rhan o ddau ddiwylliant
✅Mae galw cynyddol am bobl sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog

Newyddion
& Diweddariadau

Ein Achrediadau