ITEC SGILIAU A CHYFLOGAETH

Ein Ymrwymiad Cymraeg

Yn Itec credwn fod y Gymraeg yn sgil gwerthfawr yn y gweithle, nawr ac i’r dyfodol.

Rydym yn falch o’n treftadaeth Gymreig ac yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg a’i diwylliant, gan gefnogi’n rhagweithiol uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Rydym yn gweithio ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i annog dysgwyr i ddefnyddio a datblygu eu gallu yn y Gymraeg. Nod y Coleg Cymraeg yw creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg ac ysbrydoli dysgwyr a phrentisiaid i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd ganddynt. Gallwch ddarllen mwy am waith y Coleg Cymraeg

Rydym yn cefnogi’r amcan hwn drwy ein hymrwymiad i:

Hyrwyddo manteision y Gymraeg a diwylliant Cymru i’n holl ddysgwyr, cyflogwyr a gweithwyr ar draws ein rhaglenni yng Nghymru.

Annog ein gweithwyr a’n dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Rhoi cyfle i ddysgwyr gwblhau eu cymhwyster yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Darparu lleoliadau gwaith Cymraeg.

Hyrwyddo diwylliant Cymru drwy ein cwricwlwm a diwrnodau ymwybyddiaeth.

Ar yr 16eg o Hydref 2024, derbyniodd Itec gydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg.

Mae’r achrediad hwn, a ddyfarnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru ar draws pob agwedd ar ein gwasanaethau.

Fel rhan o’n Cynnig Cymraeg, rydym yn cynnig:

     

    Gwefan dwyieithog.

    Yr opsiwn i gyfathrebu â ni trwy e-bost, ffôn, a llythyrau yn Gymraeg a Saesneg.

    Cyrsiau prentisiaeth dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefelau 2-3) a Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Datblygiad Dysgu (Lefelau 2-5).

    Adborth dwyieithog gan ein staff i gefnogi dysgwyr.

    Presenoldeb dwyieithog ar gyfryngau cymdeithasol.

    Staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo’r bathodyn Iaith Gwaith gyda’r logo fel eich bod yn gallu adnabod nhw.

    Cydweithio gyda phartneriaid Cymreig fel yr Urdd a’r Coleg Cymraeg i hybu diwylliant Cymraeg a rhannu adnoddau.

    Mae’r Cynnig Cymraeg yn fenter a ddatblygwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg i annog busnesau, sefydliadau, ac elusennau i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, gan hyrwyddo’r defnydd o’r iaith mewn rhyngweithiadau bob dydd a gwella mynediad i wasanaethau cyfrwng Cymraeg.

    I ddarganfod mwy, cliciwch y botwm isod.

    Cyfleoedd Prentisiaeth ar gael yn y Gymraeg

    Itec
    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol- Lefel 2 a 3

    Lleoliadau darpariaeth: De Cymru

    Pengwin (Partner Itec)
    • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymraeg/Yn ddwyieithog)
    • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdaeithasol (Cymraeg/Yn ddwyieithog)

    Lleoliadau darpariaeth: De Cymru

    Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw gymwysterau nad ydynt wedi’u rhestru uchod, anfonwch e-bost at: enquiries@itecskills.co.uk

    !
    Cyrsiau am Ddim

    Dysgwch sut i ddechrau sgyrsiau ffurfiol ac anffurfiol.

    !
    Dolenni Defnyddiol

    Deunyddiau dysgu rhyngweithiol ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau iaith.

    !
    Apiau a Meddalwedd

    Casgliad o eiriaduron defnyddiol ar gyfer eich cyfrifiadur ac yn rhan o becyn Cysgliad.

    !
    Adnoddau i'w Lawrlwytho

    Mae Shwmae yn cynnig amrywiaeth o bosteri i’w lawrlwytho am ddim y gallwch eu harddangos o gwmpas eich gweithle.

    Ein Achrediadau