ITEC SGILIAU A CHYFLOGAETH

Twf Swyddi Cymru+

Datblygwch eich sgiliau, enillwch brofiad gwaith gwerthfawr, a derbyniwch hyd at £60 yr wythnos!

Rhaglen dysgu yw Twf Swyddi Cymru +, sy’n rhoi’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i sicrhau cyflogaeth neu i symud ymlaen i Brentisiaeth neu ddysgu pellach yn y dyfodol. Tra byddwch ar y rhaglen byddwch yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu eich sgiliau, ehangu eich dealltwriaeth a chynnal eich iechyd a’ch lles.

“Rwyf wedi derbyn llawer o brofiad mewn marchnata a nawr mae gen i lwybr clir i ddilyn. Rwyf wedi datblygu’r sgiliau sydd ei angen yn y gweithle a mwynheais yn fawr.”

Imogen Kitcher

Strand Cyflogaeth TSC+, Lleoliad Marchnata gyda Boyce Group

“Ar ôl i mi orfod gadael y coleg, byddwn i ddim lle ydw i nawr heb Itec a’i staff. Mae Nadine ac Abby wedi bod yn gefnogol wrth i mi fod yma, mae Jess wedi helpu fi lot i ffeindio lleoliadau a phrofiad gwaith i ddatblygu fy hunan a gweithio tuag at fy ngyrfa yn y dyfodol. Ces i gyfarfodydd wythnosol gyda Vanessa i sicrhau bod fy nghwrs AAT ar drywydd da.”

Muhammad Islam

Strand Cynnyddu TSC+, Lleoliad gyda Gym yr Hangar

Mae gan Twf Swyddi Cymru+  dri strand gwahanol i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen:
Ymgysylltu

Ynghyd â dysgu yn y ganolfan, byddwch yn cael blas o waith gyda chyflogwr lleol. Y nod yw cadarnhau eich ffocws galwedigaethol. Byddwch yn derbyn ehangder a hyblygrwydd am y sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn ogystal â chefnogaeth 1-i-1. Bydd eich cefnogaeth yn cael ei bersonoli i chi a’i deilwra i’ch anghenion, a bydd yn cyfateb i ba bynnag sector gwaith y mae gennych ddiddordeb ynddo. Anelir presenoldeb hyd at 30 awr yr wythnos. Gallwch ennill hyd at £60 yr wythnos ar y strand yma.

Cynnyddu

Mae’r strand hwn ar eich cyfer chi os ydych yn meddwl am swydd neu lwybr gyrfa benodol. Dyma lle gall Twf Swyddi Cymru+ eich helpu i wireddu hyn. Byddwn yn gweithio gyda chi ar eich cynllun dysgu unigol gyda gweithgareddau penodol i gryfhau eich sgiliau, eich galluogi i ddysgu am bwnc, a chael profiad gyda chyflogwyr lleol. Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddiant wythnosol tra byddwch yn dysgu ac yn gweithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig. Anelir presenoldeb at 16-40 awr yr wythnos, gan ennill hyd at £60 yr wythnos.

Cyflogaeth

Os ydych chi’n gwybod pa swydd rydych chi eisiau, rydych chi’n edrych, ac yn barod i ddechrau gweithio, gall Twf Swyddi Cymru+ eich helpu i gael swydd o fewn 10 wythnos. Byddwn yn dod o hyd i gyfleoedd gwaith i chi gyda chyflogwyr lleol, byddwch yn gallu cael treial gwaith a byddwch yn dod yn rhan o gwmni ac yn derbyn cyflog. Mae’r strand hwn yn darparu cymhorthdal ​​cyflog ar gyfer cyfle gwaith cyflogedig a chynaliadwy. Anelir presenoldeb at 16-40 awr yr wythnos. Gallwch ennill hyd at £60 yr wythnos nes eich bod yn gyflogedig ac yn derbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol.

Barod i weithio?

Mae gennym ni cyfleoedd amser llawn a rhan-amser ar gael gyda chyflogwyr lleol ar draws De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed.
Os ydych chi’n barod i ddechrau gweithio, cliciwch ar y botwm isod!

Darganfyddwch ein Straeon Llwyddiant TSC+

Mae Itec wedi helpu cannoedd i gael gwaith gyda TSC+

Ein Cleientiaid TSC+