ITEC SGILIAU A CHYFLOGAETH

Prentisiaethau yn Lloegr

Rydym yn darparu cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion cyflogwyr a’r gweithlu.

 

Cefnogwch ddatblygiad eich pobl a’ch busnes gyda rhaglenni Prentisiaeth Rheoli Itec.

Rydym yn cynnig nifer o Brentisiaethau Rheoli, gyda chyrsiau sy’n addas i’r rhai sy’n dechrau eu rôl gyntaf rheoli, a’r rhai sydd barod yn arweinwyr uwch sydd eisiau gwella eu dealltwriaeth a chraffter strategol, ag i ddatblygu eu sgiliau rheoli risg a strategaeth.

Mae ein dull dysgu seiliedig ar waith wedi’i deilwra i’ch sefydliad, rôl bresennol y dysgwr, a’i uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â chael cymhwyster diploma, mae dysgwyr yn cael eu mentora a’u cefnogi i’w grymuso i weithredu eu sgiliau newydd drwy gydol y cwrs a thu hwnt.

Gyda 40 mlynedd o brofiad o gyflwyno cyrsiau corfforaethol, mae Itec wedi datblygu dulliau arloesol o arwain y farchnad ar gyfer darparu hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth. Rydym yn defnyddio’r dulliau diweddaraf o ddatblygu proffesiynol, gyda chefnogaeth technoleg i ddarparu profiad dysgu cefnogol a hyblyg.

Gwella perfformiad eich busnes

Mae ein Prentisiaethau Rheoli yn sicrhau gwelliant i’ch llinell waelod, gan eich helpu i wella cynhyrchiant a bod yn fwy cystadleuol. Gyda thechnoleg yn newid yn gyson a chystadleuaeth fyd-eang yn tyfu, mae busnesau yn gweithredu mewn amgylchedd anodd. Dyna pam mae’n holl bwysig i sicrhau bod eich gweithlu wedi ei hyfforddi i safon dda gyda’r sgiliau cywir i gynnal effeithlonrwydd a thwf.

Llenwi eich bylchau sgiliau

Mae prentisiaethau’n darparu sgiliau sydd wedi’u cynllunio o amgylch eich anghenion busnes, gan ddarparu’r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol. Mae ein cyrsiau Prentisiaeth Rheolaeth yn creu arweinwyr hyderus sy’n gallu datblygu timau cryf a sicrhau llwyddiant gweithredol.

Ysgogi eich gweithlu

Mae gweithwyr yn aml yn ffyddlon i gwmni sy’n buddsoddi ynddynt ac yn rhoi’r cefnogaeth sydd eu hangen arnynt i dyfu. Mae darparu cyfleoedd hyfforddi fel y Prentisiaeth Rheolath yn rhoi hwb sylweddol i gadw gweithwyr trwy wella eu sgiliau, eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i’r sefydliad.

Prentisiaethau Rheoli Itec

Arwain Tîm

Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n barod i gamu mewn i rolau arwain, rhelowyr newydd a’r rhai sydd heb ffeindio unrhyw hyffirddiant rheolaeth. Mae’n eich arfogi â sgiliau rheoli ac arwain hanfodol i arwain a chefnogi timau mewn unrhyw sector yn effeithiol.

Hyfforddi

Wedi’i gynllunio i fodloni’r galw cynyddol am sgiliau hyfforddi proffesiynol yn yr amgylchedd gwaith sy’n newid yn barhaus heddiw. Bydd eich staff yn meistroli’r grefft o arweinyddiaeth anghyfarwyddiadol, gan rymuso unigolion a thimau i ragori yn eu rolau.

Rheolaeth Gweithrediadau

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau sydd eu hangen ar Uwch Arweinwyr i reoli timau’n strategol mewn unrhyw sector i ennill yr arbenigedd sydd ei angen i ysgogi llwyddiant sefydliadol. Popeth o reoli newid i gynllunio strategol.

FAQs

Faint mae prentisiaeth yn Costio?

Gall cyflogwyr ddefnyddio’r arian Ardoll Prentisiaethau ar gyfer y rhaglenni hyn.

Ar gyfer cyflogwyr sydd ddim yn talu i mewn i’r Ardoll Prentisiaethau, gallwch gael 95% o’r arian gan yr Adran Addysg drwy grant awtomatig gan y llywodraeth.

Pwy sy'n gymwys?

Mae’n rhaid i ddysgwyr:

  • Bod mewn rôl lle gallent ddefnyddio ei sgiliau.
  • Bod yn gweithio am o leiaf 50% o oriau gweithio yn Lloegr neu Gymru.
  • Bod yn gyflogedig (dim yn hunan cyflogedig neu’n llawrydd) neu ar Gynllun TWE.
  • Peidio cael yr un cymhwyster neu gymhwyster lefel uwch yn yr un maes pwnc.
Pa mor hir mae prentisiaeth yn ei gymryd?

Yn dibynnu ar y brentisiaeth, maent fel arfer yn cymryd 12 i 18 mis i gwblhau’r hyfforddiant.

Faint o GyFRANOGIAD SYDD EI ANGEN GENNYF FI, Y CYFLOGWR?

Mae cefnogaeth ac arweiniad gan y rheolwr llinell yn hanfodol ar gyfer y rhaglen hon. Rydyn ni angen deall sut fath o ddysgu gofynnol sydd ei angen ar gyfer eich aelod o’r tîm a sut y gallwn ni gefnogi hyn. Gofynnwn o leiaf i chi fynychu adolygiad ffurfiol bob 12 wythnos.

Allwch chi hyfforddi fy staff presennol?

Ydy, mae’r fframwaith wedi’i adeiladu ar gyfer gweithwyr newydd a phresennol a chaiff ei ariannu’n llawn cyn belled â’u bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Sut bydd hyfforddiant staff yn diwallu fy anghenion busnes?

Yn Itec byddwn yn datblygu cynnig hyfforddi wedi’i deilwra ar gyfer pob cyflogwr fel ei fod yn bodloni amcanion eich busnes.

Ein Cleientiaid