ITEC SGILIAU A CHYFLOGAETH

Cyflogwr

Ewch â’ch busnes i’r lefel nesaf drwy gymryd dysgwr TSC+

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen sydd wedi’i dylunio i helpu pobl ifanc 16–18 oed i symud ymlaen i’r cam nesaf mewn bywyd.

Gall Twf Swyddi Cymru+ gynnwys treialon gwaith, profiadau gwaith neu gyflogaeth uniongyrchol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad i bobl ifanc i’w galluogi i symud ymlaen cyn gynted â phosibl i ddysgu ar lefel uwch, prentisiaeth neu i gyflogaeth.

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn hyblyg a thrwy weithio’n agos gydag Itec, gallwch gynllunio rhaglen sy’n addas i’ch anghenion chi ac anghenion y person ifanc.

Hyfforddiant cyflogadwyedd a ddarperir gan Itec ar gyfer y person ifanc
Cymorth Saesneg, mathemateg a sgiliau digidol os oes angen
Profiad gwaith gwerthfawr a ddarperir gan eich cwmni
Lwfans hyfforddi wythnosol a delir i’r person gan Itec

Gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr drwy gefnogi person ifanc a all fod yn amhrisiadwy i’ch busnes yn y dyfodol

Yn ogystal â’r elfennau sylfaenol hyn, gallwn ychwanegu cynnwys ychwanegol hyblyg i ddiwallu anghenion eich busnes a’r farchnad lafur lleol. Mae gennym ddewis mawr o bobl ifanc sy’n hyfforddi gyda ni ar y rhaglenni TSC+ sydd angen profiad o’r gweithle. Mae’r bobl ifanc yma yn datblygu’r sgiliau mae cyflogwyr yn gofyn am, yn ogystal â’r agwedd bositif sydd ei angen i wneud y gwaith.

Mae nifer o fanteision profedig i ddarparu lleoliad gwaith i berson ifanc

N

Ychwanegu sgiliau newydd at eich gweithlu

N

Rhoi cyfle i berson ifanc gael profiad gwerthfawr

N

Hyblygrwydd i ddiwallu eich anghenion busnes

N

Cefnogaeth gan y tîm Itec

“Pan oeddwn yn 16, cymerais ran mewn rhaglen debyg hefyd, felly rwy’n gwybod yn uniongyrchol am fanteision rhoi cynnig ar wahanol ddiwydiannau i weld pa un sydd fwyaf addas i chi. Rwy’n meddwl bod TSC+ yn opsiwn gwych i ddysgwyr sy’n ansicr pa lwybr i’w gymryd. Mae’n galluogi pobl i nodi eu cryfderau ar gyfer boddhad swydd.”

Margam Park

“Mae TSC+ wedi rhoi cyfle gwych i helpu a chefnogi bachgen lleol gyda’i ddatblygiad a’i integreiddio i gyflogaeth.”

Afan Tyres

Byddwch yn Lwyddiant!

Darganfyddwch sut mae ymgeiswyr blaenorol TSC+ wedi datblygu eu gyrfa.

Ein Clientiaid TSC+