Ysgrifennir gan James Loveridge, Swyddog Cyflogadwyedd
James ydw i, rwyf wedi derbyn y dasg o ddisgrifio profiad bywyd go iawn… sodlau ar y ddaear, Swyddog Cyflogadwyedd gydag Itec Sgiliau a Chyflogaeth.
Fel Swyddog Cyflogadwyedd sy’n gweithio ar draws De Cymru, mae gen i’r fraint o gefnogi pobl ifanc wrth iddynt gymryd eu camau gyntaf i mewn i’r byd gwaith. Pob ddiwrnod, rwy’n cwrdd â phobl ifanc talentog llawn cymhelliant sydd eisiau llwyddo. Ond, nid yw talent ar ben ei hunan yn ddigon. I lawer o bobl ifanc, mae’r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a marweiddio yn dod i lawr i gyfle.
Mae’na niferoedd mawr o bobl ifanc anhygoel sy’n awyddus i ddechrau yn y gweithle, ond dydy o ddim yn digwydd heb gyflogwyr sy’n fodlon edrych tu hwnt CV a chydnabod potensial y genhedlaeth nesaf.
Ar draws y pedwar maes rwy’n eu cefnogi, mae cymaint o straeon llwyddiant y byddai’n amhosibl tynnu sylw atynt i gyd yn yr erthygl unigol hon. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gyda dros 80 person ifanc wedi’i lleoli gyda chyflogwyr, yn cefnogi nhw i ffeindio eu pwrpas, datblygu eu sgiliau a thrawsnewid y profiadau yna i mewn i ganlyniadau positif, pe bai hwnna’n gyflogaeth, prentisiaethau neu addysg bellach.
Mae pob siwrne yn wahanol a dyna’n union beth mae rhaglenni cyflogadwyedd amdan. Unigoli a chydweithredu gan y darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr.
Dylai cefnogaeth cyflogadwyedd byth bod amdan ddisgwyl yr un peth o bob person neu ddisgwyl iddynt i gyd dilyn yr un llwybr. Mae gan bob person ifanc stori, dyheadau, cryfderau a rhwystrau ei hunan. Gall yr hyn sy’n gweithio i un unigolyn peidio gweithio i berson arall. Yn syml, ni fydd pob esgid yn ffitio.
Yn yr wythnos diwethaf yn unig, cymerodd sawl person ifanc y naid i’w lleoliad gwaith cyntaf.
Un o’r dysgwyr yna oedd Jacob a wnaeth cychwyn lleoliad gydag Eurosec yn ddiweddar. Gall dechrau mewn diwydiant arbenigol bod yn frawychus, yn enwedig i rywun heb lawer o brofiad. Ond, mae Jacob wedi manteisio ar y cyfle i fod yn bositif ac yn onest, gan dderbyn dim ond adborth cadarnhaol yn ystod ei wythnos gyntaf. Drwy agor eu drysau i berson ifanc, mae EuroSec nid yn unig yn darparu sgiliau a phrofiad gwerthfawr, ond hefyd yn buddsoddi mewn talent sydd â’r potensial i dyfu a gwneud cynnydd yn fewnol o fewn busnes sy’n ehangu.
Gadewch i ni hefyd siarad am bobl ifanc fel Ella a Sophie, sydd wedi llwyddo i gael gwaith gyda’r Sefydliad Adeiladu. Mae eu cyflawniadau’n deillio’n uniongyrchol o’u gwaith caled, eu penderfyniad a’u hymrwymiad trwy gydol eu lleoliadau gwaith a’u dysgu mewn canolfannau. Drwy barhau i ddatblygu eu hunain ac aros yn frwdfrydig drwy gydol eu taith, yn y pen draw maent wedi cyflawni canlyniadau cyflogaeth cadarnhaol mewn lleoliad a gefnogir a fydd ond yn parhau i’w datblygu.
Ond nid yw pob taith yn dilyn llinell syth, ac mae hynny’n iawn.
Yn ddiweddar, dechreuodd person ifanc o’n canolfan Pontypridd ar leoliad gwaith adeiladu, gan gredu mai dyma oedd y llwybr gyrfa yr oeddent am ei ddilyn. Ar ôl treulio ychydig ddyddiau ar y safle, fe wnaethant sylweddoli’n gyflym nad oedd y gwaith adeiladu ar eu cyfer. Efallai y byddai rhai yn ystyried hyn fel rhwystr mawr, ond rwy’n ei weld yn wahanol. Fe wnaethant ddysgu rhywbeth amhrisiadwy amdanynt eu hunain ac yn awr gallaf wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu dyfodol. Ni fyddai o wedi gally sylweddoli hyn heb gael y cyfle i wneud y lleoliad. Fel partner lleoliad neu gyflogwr rwy’n teimlo fel dylai hyn cael ei amlygu. Ni fydd pob person yn ffitio’r un esgid, ond roedd yr hyn a wnathoch yn ffactor enfawr mewn datbllyfaid rhywun – byddwch yn falch o hyn beth bynnag.
Mae’n iawn newid cyfeiriad. Mae archwilio gwahanol lwybrau gyrfa yn iawn. Mae gwneud pethau’n anghywir yn rhan o’r broses.
Yr hyn sy’n bwysig yw peidio â rhoi’r gorau iddi.
“(Ie, oedd hyn i gyd o fewn wythnos & ie hwn ‘di ‘mond hanner o & ie, does gen i ddim clem chwaith lle rwy’n ffeindio’r amser!)”
Mae siwrne fy hunan yn adlewyrchu hyn. Fel llawer o bobl ifanc – 16 mlwydd oed yn syth allan o’r ysgol… cychwynnodd fy nhaith gyda darparwr hyfforddiant. Mae’n ddiogel dweud… wnes i ddim cael pethau’n iawn y tro cyntaf… llosgais bontydd, nid oeddwn wedi ymrwymo, ces i newid meddwl; ond yr un a wnes i oedd treulio amser mewn diwydiant, fy niwrnod cyntaf gwaith go iawn, y sylfaen i adeiladu rhywbeth mwy. Nid yw gyrfaoedd yn syml ac nid yw llwyddiant yn edrych fel gwneud y dewis perffaith ar y cyfle cyntaf. Mae o amdan barhau i ddysgu, addasi a dyfalbarhau nes eich bod yn dod o hyd i’r llwybr sy’n iawn i chi.
“Ffeindiais fy llwybr trwy helpu pobl eraill ffeindio llwybrau nhw. O berson ifanc gyda phroblemau hyder i fynychu lleoliad gwaith gyda siop TG, i flynyddoedd mewn ffactori, i arwain timau, i arwain trafodaethau, i deithio De Cymru yn helpu datblygu’r genhedlaeth nesaf… nid yw’r llwybr yna yn syth. Mae o wedi cymryd 13 blwyddyn ers y diwrnod cychwynnais gyda’r darparwr hyfforddiant. Roedd y dalent wastad yno, yr unig newid oedd cael y cyfle.” – James Loveridge
Mae pobl ifanc yn dod â gwerth enfawr i gyflogwyr. Maen nhw’n cynnig safbwyntiau ffres, hyder digidol, creadigrwydd ac agwedd wahanol ar waith a bywyd. Mae llawer o bobl ifanc wedi tyfu i fynyochr yn ochr â thechnoleg, gyda sgiliau a hyblygrwydd sy’n gallu cynnig manteision go iawn i fusnesau.
Nid yw cyflogwyr sy’n ymgysylltu â lleoliadau gwaith a rhaglenni cyflogaeth ieuenctid yn syml yn cefnogi pobl ifanc; maent yn buddsoddi yn eu gweithlu yn y dyfodol ac yn helpu i lunio’r genhedlaeth nesaf o weithwyr.
Mae fy neges i gyflogwyr yn syml:
“edrych y tu hwnt i brofiad a gweld y potensial.”
Mae’r cyfle hwn yn gyfle i bobl ifanc gael profiad o dalent. Drwy agor eich drysau, dangos amynedd a buddsoddi amser, efallai y byddwch yn newid bywyd person ifanc ac yn darganfod aelod amhrisiadwy o’ch tîm.
Wrth i ni ddathlu Wythnos Cyflogaeth Ieuenctid, rwy’n annog cyflogwyr ledled Cymru a thu hwnt i gydnabod y potensial aruthrol sydd gan ein pobl ifanc ac ystyried y rôl y gallant ei chwarae wrth eu helpu i gymryd y cam cyntaf hollbwysig hwnnw.
Adeiladwch ddyfodol gwell, heddiw. Buddsoddwch mewn pobl ifanc.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

















