Roedd yna digon o ddrwgdybiaeth, strategaeth a gwaith tîm yn Nwyrain Caerdydd wrth i ddysgwyr cymryd rhan mewn fersiwn ei hunan o The Traitors!
Wedi’i ysbrydoli gan y rhaglen teledu boblogaidd, wnaeth y sesiwn rhyngweithiol herio dysgwyr i weithio gyda’i gilydd, cyfathrebu’n effeithiol a datrys problemau, wrth iddynt weithio allan pwy oedden nhw’n gallu ymddiried ynddynt.
Tu ôl i’r hwyl a chystadlu oedd cyfle arbennig i ddatblygu sgiliau cyflogi trosglwyddadwy pwysig. Roedd rhaid i ddysgwyr gwrando ar ei gilydd, esbonio ei meddyliau, gwneud penderfyniadau o dan bwysau, cyfrannu at drafodaeth grŵp ac addasu ei ffordd o weithio wrth i’r gweithgaredd datblygu.
Wnaeth y sesiwn annog dysgwyr i herio’r hyn sy’n gyfarwydd iddynt. Hefyd wnaeth o dangos sut gall sgiliau fel gwaith tîm, cyfathrebu, datrys problemau, meddwl beirniadol a hyder cael ei datblygu trwy weithgareddau creadigol a hwylus.
Yn bwysicach, wnaeth pawb cymryd rhan!
Roedd awyrgylch Dwyrain Caerdydd yn fendigedig, gydag ymgysylltiad arbennig o’r dysgwyr trwy gyfrwng y prynhawn a digon o ddadl wrth i’r Ffyddlon trio canfod y Bradwyr ymysg nhw.
Mae sesiynau fel yma yn dangos nad oes rhaid i sgiliau sy’n dda ar gyfer y gweithle cael ei ddatblygu dim ond yn eistedd wrth ddesg. Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr fedru dysgu trwy brofiadau yn gallu helpu adeiladu hyder, cryfhau perthnasoedd a gwneud dysgu yn werthfawr ac yn gofiadwy.
Da iawn i’n dysgwyr Dwyrain Caerdydd ac i’r staff am greu sesiwn mor hwyl a chyffrous, yr unig gwestiwn i ofyn ydy… oedd y Ffyddlon yn llwyddiannus yn ffeindio’r Bradwyr? 👀
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

















