Ysgrifennir gan Eleri Bryon, Swyddog yr Iaith Gymraeg

Disgleiriodd Cystadleuaeth yr Iaith Gymraeg olau ar straeon personol prentisiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg i wneud gwahaniaeth. O ddosbarthiadau, i gartrefi gofal, a swyddfeydd, wnaeth prentisiaid rhannu sut mae’r Gymraeg wedi datblygu ei hyder a theimlad o berthyn yn y gweithle.

Wnaeth y gystadleuaeth gofyn i brentisiaid myfyrio ar ei siwrne iaith Cymraeg. Rhannon nhw sut roedden nhw wedi cychwyn, beth maen nhw wedi dysgu, a’r gwahaniaeth mae’n gwneud yn ddyddiol. Y canlyniad oedd casgliad o gyflwyniadau gyda chalon, oedd yn dangos pa mor bwerus mae iaith yn gallu pan mae’n cael ei defnyddio gyda phwrpas.

🏆 Gwobr 1af: Sreelakshmi Das, QCF Lefel 2 Lefelau Gorfodol y Gymraeg

Y rheswm tu ôl i’r Gystadleuaeth Iaith Cymraeg oedd darganfod straeon fel un Sreelakshmi. Prentis gyda chwilfrydedd a dewrder i ddarganfod cariad gwirioneddol tuag at yr iaith. Symudodd hi i Gymru heb air o Gymraeg, a chaeth hi ei thynnu at sŵn cyfarchion Cymraeg fel “Bore da”.  Wnaeth hyn ei ysbrydoli i ddechrau dysgu ar Duolingo yn ei amser hamdden.

Yn gyflym, tyfodd hyn yn rhywbeth mwy.

Pan ddechreuodd ei swydd fel cynorthwyydd dysgu mewn ysgolion gyfrwng y Gymraeg, wnaeth cyfarchion hawdd helpu hi i gysylltu â’r athrawon, adeiladu ymddiriedaeth a theimlo fel rhan o gymuned yr ysgol. Disgrifiodd hi’r “cariad ychwanegol” roedd hi’n teimlo pan wnaeth cydweithwyr sylweddoli bod hi’n gallu siarad bach o Gymraeg, atgof o ba mor bwerus mae’r camau bach yn gallu bod.

Bellach, yn ystod ei chymhwyster Lefel 2, wnaeth hi fynd yn ôl at y Gymraeg yn ffurfiol a wnaeth hi ailddarganfod ei brwdfrydedd. Heddiw, mae hi’n gweithio tuag at fod yn siaradwr rhugl, gan weld y Gymraeg nid yn unig fel sgil, ond fel rhan o’r etifeddiaeth mae hi eisiau datblygu.

🥈 Gwobr 2il: Cedrak Ategeka, NVQ Lefel 3 Gofal Iechyd a Chymdeithasol

Wnaeth stori Cedrak dangos sut gall y Gymraeg trawsnewid gofal. Fel Uwch Ymarferydd Gofal sy’n helpu oedolion sy’n byw a dementia, mae o’n defnyddio Cymraeg pob diwrnod i greu cysur, eglurder ac urddas i breswylwyr y mae’n well ganddynt gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf.

Wnaeth o rannu enghreifftiau o sut mae Cymraeg yn gallu cefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn:

  • Cyfarchion Cymraeg fel “Bore da” i ddechrau’r diwrnod gyda chyfarwydded
  • Esbonio cynllun y diwrnod yn Gymraeg i leihau dryswch a chefnogi diogelwch.
  • Defnyddio cardiau llun gyda chyfieithiadau Cymraeg i gefnogi cyfathrebiad i unigolion gyda dementia.

Wnaeth stori Cedrak tynnu sylw at rywbeth hanfodol: nid yn unig ydy gofal dwyieithog yn helpu, mae’n a bad achub i rai preswylwyr.

🥉 Gwobr 3ydd – Elan Morris, CILEX Lefel 3

Mae stori Elan yn ein hatgoffa bod angen i hyd yn oed siaradwyr rhugl cael anogaeth i ddod a’r Gymraeg i’r gweithle. Er bod ganddi hi Feistri yn y Gymraeg, doedd hi ddim yn ei defnyddio llawer yn y gweithle  tan gwblhau’r modiwl Prentis Iaith.

Newidiodd hwnna popeth.

Wnaeth hi newid ei phas i un siarad-Cymraeg, rhywbeth bach a wnaeth agor drysau i fwy o drafodaethau, hyder a gwelededd. Cychwynnodd i ddefnyddio’i Chymraeg gyda chydweithwyr, gan adael pobl gwybod bod hi’n gallu siarad yr iaith roedd hi’n caru.

Disgrifiodd Elan sut wnaeth y camau bach yma gwneud iddi hi deimlo cysylltiad mwy i’w gweithle ac i’w hunaniaeth. Wnaeth ei phrentisiaeth atgoffa hi nad yw defnyddio Cymraeg yn ddyddiol yn anodd. Weithiau mae’n mor hawdd a chychwyn sgwrs.

Dathlu’r Gymraeg Pob Dydd

Ar draws y tair stori, wnaeth un peth sefyll allan: nid yn unig ydy’r Gymraeg yn cael ei defnyddio, mae’n cael ei byw. Mae prentisiaethau yn defnyddio’r Gymraeg i adeiladu perthnasau, cryfhau hunaniaeth a newid y gweithle i un mwy croesawus.

Fel Swyddog yr Iaith Gymraeg, roedd o’n feddwl llawer i fedru darllen y straeon yma. Roedd cael darllen darnau mor angerddol am ddefnyddio’r Gymraeg yn fy sicrhau bod yna obaith mawr am ddyfodol Cymraeg.

“Mae’n dangos nid yn unig bod y Gymraeg yn byw; mae’n tyfu, yn ffynnu ac yn cael ei defnyddio gyda balchder.”

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau