Cysylltu Pobl a Chyfleoedd Chyflogaeth

Mae’r rhaglen Gwarant Swyddi, sy’n cael ei darparu gan Itec Sgiliau a Chyflogaeth, yn helpu unigolion ar draws De-ddwyrain a de-orllewin Cymru i gymryd camau positif tuag at gyflogaeth gynaliadwy ac yn cefnogi cyflogwyr i gael mynediad at dalent sy’n barod i weithio.

Wedi’i dylunio i gefnogi pobl sy’n mynd trwy Ganolfannau Swyddi, mae’r rhaglen sydd wedi’i gwbl ariannu yn darparu cefnogaeth cyflogaeth wedi’i theilwra, cyfleoedd hyfforddiant a chysylltiadau uniongyrchol gyda chyflogwyr lleol. Wrth weithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid cyflogwyr, mae Itec yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu’r sgiliau, hyder a phrofiad sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y gweithle, ac yn helpu mynd i’r afael ag anghenion recriwtio ar draws nifer o ddiwydiannau.

Mae un cyfranogwr yn manteisio o’r rhaglen yn barod sef Lewis Thomas, sydd wedi sicrhau cyfle gyda Diogelwch a Digwyddiadau Lionsgate Ltd fel Gofalwr Diogelwch Goruchwyliwr y Drws.

Dechrau Da gyda Diogelwch & Digwyddiadau Lionsgate

Er bod Lewis wedi bod gyda’r cwmni am adeg fer, mae o wedi creu argraff gref ar y tîm gyda’i ymrwymiad, dibynadwyedd ag agwedd bositif at y gwaith.

Trwy’r rhaglen Gwarant Swyddi, cafodd Lewis ei gysylltu â chyflogwr oedd yn  gallu darparu cyfleoedd gwerthfawr i gael profiad a datblygu ei sgiliau. Ers ymuno a Diogelwch & Digwyddiadau Lionsgate Ltd, mae o wedi dangos agwedd dda at weithio, ac eisiau go iawn i adeiladu gyrfa hirdymor ro fewn y maes diogelwch.

Mae Lionsgate wedi cefnogi Lewis trwy roi profiad ar draws shifftiau, lleoliadau ac amgylchau gwahanol. Wnaeth hyn helpu o i adeiladu ei hyder a darganfod pa ran o waith diogelwch oedd yn addas iddo fo. Roedd yr agwedd ymarferol yma wedi galluogi Lewis i dderbyn dealltwriaeth werthfawr o’r diwydiant wrth iddo ddatblygu’r sgiliau ymarferol oedd angen iddo lwyddo.

Adeiladu Profiad ar draws Digwyddiadau a Lleoliadau Mawr

Roedd Lewis wedi derbyn profiad gwych yn barod trwy ei swydd. Roedd ei asesiadau yn cynnwys Ironman Tenby, Ironman Weymouth, gemau clwb pêl droed Bristol Rovers, lletai myfyrwyr Student Roost, y safle adeiladu Dewi Sant a gemau pel droed yn Stadiwm Abertawe.

Mae ei brofiad yn parhau i dyfu, gyda chyfleoedd ychwanegol gyda Burger Kind a Chlwb Pêl droed Dinas Caerdydd yn adio at ei ddealltwriaeth o weithio mewn amgylchau diogelwch gwahanol.

Mae’r profiadau yma wedi galluogi Lewis i weithio mewn nifer o leoliadau, gan gefnogi diogelwch y cyhoedd, rheoli pwyntiau mynediad a datblygu’r hyder sydd ei angen i weithio’n dda mewn swydd sy’n delio gyda chwsmeriaid.

Nid Oes Diwedd i Ddysgu

Mantais allweddol y rhaglen Gwarant swyddi ydy ei ffocws ar ddatblygiad parhaol ar ôl sicrhau cyflogaeth.

Ynghyd a’i swydd, mae Lewis yn parhau i fuddsoddi i mewn i’r twf personol trwy addysg a hyfforddiant pellach. Ar hyn o bryd mae o’n cwblhau cymhwyster Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Sbectryddion, gyda chyfleoedd datblygiad ychwanegol efallai yn cynnwys, Hyfforddiant Marsial Tân, Rheoli Torfau, Gwasanaethau Cwsmeriaid Lefel 3 a Her 25.

Mae’r cyfuniad o gyflogaeth, profiad ymarferol a dysgu parhaol yn helpu Lewis i adeiladu sylfaen cryf ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y mae diogelwch a digwyddiadau.

Cefnogi Cyflogwyr i Ddatblygu Talent

Mae’r rhaglen Gwarant Swyddi nid yn unig yn cefnogi unigolion i gael gwaith ond hefyd yn helpu cyflogwyr i gysylltu ag ymgeiswyr sy’n barod ar gyfer y swydd sy’n awyddus i lwyddo.

Ar gyfer busnesau fel Diogelwch & Digwyddiadau Lionsgate Ltd, mae’r rhaglen yn darparu mynediad at unigolion sydd wedi derbyn cymorth cyflogadwyedd ac sy’n awyddus i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae hyn yn helpu cyflogwyr i gryfhau eu gweithlu wrth greu cyfleoedd i bobl leol gael cyflogaeth gynaliadwy.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Sgiliau a Chyflogaeth Itec, gall cyflogwyr adnabod unigolion talentog, cefnogi eu cynnydd a datblygu gweithwyr hirdymor yn y dyfodol o bosibl.

Adborth Cyflogwyr

Mae ymroddiad a brwdfrydedd Lewis eisoes wedi gwneud argraff gadarnhaol ar ei gyflogwr.

Fe wnaeth Colin Grey, Rheolwr Gweithrediadau yn Lionsgate Security & Events Cyf, ganmol prydlondeb Lewis, agwedd gadarnhaol a gwaith caled.

“Mae Lewis bob amser yn gweithio ar amser ac agwedd gadarnhaol. Rydym wrth ein bodd gyda moeseg gwaith Lewis ac, os bydd popeth yn mynd yn dda, byddwn yn ei ystyried o ddifrif ar gyfer swydd barhaol gyda ni.”

Ychwanegodd:

“Diolch am roi’r cyfle i ni weithio gyda Lewis a datblygu ein tîm.”

Creu Canlyniadau Cadarnhaol

Mae taith Lewis yn enghraifft wych o’r hyn sy’n gallu digwydd pan fydd rhywun yn cael y cyfle i ddangos eu potensial yn y gweithle.
Drwy raglen Warant Swyddi, mae Lewis wedi gallu ennill profiad yn y byd go iawn, parhau i ddatblygu ei sgiliau a chymryd camau ystyrlon tuag at yrfa gynaliadwy. I Lionsgate Security & Events Ltd, mae’r rhaglen wedi darparu mynediad i unigolyn brwdfrydig sydd eisoes yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r busnes.
Wrth i Itec Sgiliau a Chyflogaeth barhau i gyflwyno’r rhaglen Gwarantu Swyddi ledled Cymru, mae straeon fel rhai Lewis yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall cydweithio rhwng Canolfannau Gwaith, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant â hi. Drwy gyfuno cymorth wedi’i deilwra, cyfleoedd cyflogaeth a datblygiad parhaus, mae’r rhaglen yn helpu unigolion i adeiladu dyfodol disglair wrth gefnogi cyflogwyr i ddatblygu’r gweithlu sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau