Graddio Bythgofiadwy

Wnaeth Itec dathlu llwyddiant ei graddedigion prentisiaeth 2026 mewn seremoni arbennig ar Fedi’r 3ydd, gan ddod a dysgwyr, cyflogwyr, partneriaid a chefnogwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd. 

Wnaeth y digwyddiad nodi gwaith caled, gwytnwch ac ymroddiad prentisiaethau oedd wedi cwblhau eu rhaglenni’n llwyddiannus, a thynnodd o sylw at y rôl allweddol mae prentisiaethau yn chwarae trwy ddatblygu sgiliau, cefnogi busnesau a chryfhau’r economi Cymraeg. 

Araethau Arbennig

Mynychwyd y seremoni gan Lis McLean AS, Aelod o Senedd Plaid Cymru dros Bontypridd, Cynon a Merthyr. Roedd ei phresenoldeb yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn prentisiaethau, dysgu gydol oes a datblygu sgiliau ledled Cymru. 

Dywedodd McLean;

“Roedd o’n arbennig i wylio gymaint o bobl yn graddio, roedd o’n fraint i fod yn rhan o’r filltir carreg bwysig yn eu bywydau. Mae digwyddiadau fel yma yn ein hatgoffa pa mor bwysig ydy hi i fuddsoddi i mewn i brentisiaethau,  dysgu gydol oes a datblygiad sgiliau ledled Cymru.” 

Rhoddodd Ceri Murphy Cyfarwyddwr Rheoli Itec clod i’r graddedigion am ei ymrwymiad a dyfalbarhad trwy gydol ei siwrneiau prentisiaeth. Dywedodd;

“Mae heddiw yn nodi milltir carreg bwysig: llwyddiant chi am gwblhau eich prentisiaeth a’r adnabyddiaeth ffurfiol o’ch gwaith caled, ymrwymiad a gwytnwch. Mae eich prentisiaeth yn cynrychioli mwy na’r sgiliau rydych wedi datblygu; mae’n adlewyrchu eich medru i dyfu, addasu a dyfalbarhau.” 

Wnaeth ein siaradwr gwadd Lisa Mytton Cyfarwyddwr Strategol  Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru trafod am effaith hirdymor dysgu yn y gweithle ar unigolion, busnesau a chymunedau Cymru. Dywedodd Mytton;

“Mae cymunedau yn buddsoddi o bobl yn adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn agos i adref.” 

Wnaeth ei araith adlewyrchu pwysigrwydd buddsoddi mewn talent leol, helpu busnesau Cymraeg cael y gweithlu medrus maent yn haeddu yn ogystal â chreu cyfleoedd i bobl ffynnu yn eu cymunedau. Gan ddatblygu sgiliau a chefnogi cynnydd gyrfaol ledled Cymru, mae prentisiaethau yn chwarae rôl allweddol mewn adeiladu economi Cymraeg cryfach a llwyddiannus. 

Gair gan Brentisiaethau

Daeth Leighton Channing Rheolwr Gweithredol EE a phersbectif cyflogwr i’r llwyfan. Dywedodd;

“Mae persbectif ffres prentisiaethau yn hynod o werthfawr i ni. Nid ydynt o reidrwydd yn cael ei dal yn ôl gan y dywediad “Well, dyna’r ffordd rydym wedi wastad gwneud o”, maent yn cwestiynu ac yn herio’r arferol gan maent yn gweld pethau mewn ffordd wahanol. Felly, yn lle o rywun perffaith ar ddiwrnod cyflogi, bydd well gen i gyflogi rhywun gallem siapio.” 

Rhannodd y siaradwr graddedig William Mainala ei siwrne ysbrydoledig o’i brentisiaethau Lefel 2 hyd at Lefel 5, myfyriodd o ar y gefnogaeth derbyniodd o drwy gydol ei brofiad dysgu. Dywedodd;

“Rwy’n ddiolchgar i Itec a’r ddau aseswr wnaeth cymryd fi o Lefel 2 i Lefel 5. Wnaethoch chi herio fi mewn nifer o ffurf wahanol yn broffesiynol ac mae hynny wedi gwneud fi pwy ydw i heddiw.”  

Roedd ei eiriau yn adlewyrchu’r rôl bwysig mae aseswyr, cyflogwyr a rhwydweithiau cefnogol yn chwarae mewn helpu prentisiaid sylweddoli potensial nhw a chynyddu yn eu gyrfaoedd. 

Cymeradwyaeth Mawr

Mae’r seremoni graddio yn adlewyrchu ymrwymiad parhaol Itec i gefnogi dysgwyr a chyflogwyr trwy raglenni prentisiaeth safon-uchel sy’n helpu unigolion i gyflawni eu huchelgeisiau yn ogystal â chryfhau’r gweithlu Cymreig. 

Rydym ni fel Itec eisiau estyn ein llongyfarchiadau i’n graddedigion i gyd ar eu llwyddiant rhagorol, a hefyd rhoi diolch i’r cyflogwyr, partneriaid, siaradwyr gwedd a chydweithwyr am ei help yn gwneud y diwrnod yn un bythgofiadwy.

    Sut Gallwn Ni Helpu Chi

    Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

    Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

    Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

    Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

    Prentisiaethau i Bawb

    Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

    Ein Achrediadau