Partneriaeth Llwyddiannus

Mae ein partner Brighlink Learning Ltd wedi cael ei gydnabod ar draws nifer o wobrau busnes Cymraeg yn ddiweddar. Cafodd ei gydnabod yn enwedig am ei gyfraniad i addysg gyfreithlon, datblygiad proffesiynol a chyflogaeth gynhwysol. Daw hyn ar yn ystod sbel lwyddiannus i’r sefydliad sydd yn ein helpu i ddarparu Gwasanaethau Prentisiaethau Cyfreithlon Cymraeg.

Rydyn ni Itec Sgiliau a Chyflogaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda Brightlink ar ddarpariaeth y rhaglen Prentisiaeth Gwasanaethau Cyfreithlon Cymraeg. Nawr mae’na dros 80 o brentisiai mewn prentisiaethau ar draws nifer o gwmnïau cyfreithiol a thimau cyfreithiol mewnol ledled Cymru.

Fel rhan o’r bartneriaeth, mae Itec yn cefnogi croeso y prentisiai ac yn darparu elfen Sgiliau Hanfodol y rhaglen. Rydym yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau proffesiynol sydd ei hangen yn y maes cyfreithlon.

Gwobrau

Enillodd Brightlink dwy wobr yn y Gwobrau Twf Busnes Cymru (De a Chanol Cymru). Roedd hyn yn cynnwys y Wobr Rhagoriaeth mewn Addysg a’r Wobr Busnes Cyfreithiol a Phroffesiynol. Cafodd y Prif Swyddog Gweithredol Lorna Baldry ei gydnabod hefyd fel un o’r rownd derfynol yn y categori Gwobr Arweinyddiaeth Weledigaethol.

Yn fwy diweddar dyfarnwyd Cymeradwyaeth Uchel i Brightlink yng nghategori Cyflogwr Cynhwysol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cymru 2026. Roedd hyn yn cydnabod ymrwymiad y sefydliad i hygyrchedd, cynhwysiant a chreu llwybrau cefnogol i mewn i yrfaoedd cyfreithiol.

Mae’r gwobrau yn adlewyrchu adeg o dwf organig cyson i’r sefydliad, sydd yn nawr yn cefnogi 500 o ddysgwyr. Mae hyn yn gynnwys Prentisiai Gwasanaethau Cyfreithlon Cymraeg, dysgwyr sy’n gwneud cymwysterau CILEX, neu sy’n paratoi ar gyfer yr SQE, prentisiaethau y gyfraith a’r rhaglenni datblygiad proffesiynol.

Cefndir

Er bod ei brif swyddfa yng Nghaerdydd, mae Brightlink yn darparu  prentisiaethau a rhaglenni hyfforddiant cyfreithiol yn gyfan gwbl ar lein. Mae hyn trwy gyfuniad o blatfformau addysg ddigidol, gweithdai byw, cefnogaeth tiwtor arbenigol, ac arweiniad bugeiliol pwrpasol. Mae’r agwedd hyblyg yma yn caniatáu dysgwyr i gydbwyso dysgu ochr yn ochr â chyflogaeth a theulu.

Mae hybligrwydd y rhaglenni prentisiaeth yn galluogi dysgwyr i gael profiad ymarferol yn y gweithle wrth ddatblygu ei ddealltwriaeth arbennigol mewn meysydd penodol o’r gyfraith. Cefnogi hyn ei datblygiad gyrfaol ac anghenion datblygu gweithlu’r cyflogwr.

Mae’r sefydliad yn gweithio’n agos gyda chwmnïau cyfreithiol, timau cyfreithiol mewnol, a chyflogwyr gwasanaethau proffesiynol i helpu i ddatblygu gweithwyr proffesiynol cyfreithiol medrus a gwella mynediad i’r proffesiwn ar gyfer unigolion o ystod eang o gefndiroedd a chyfnodau gyrfa.

 Brighlink Heddiw

Mae’r tîm Brightlink bellach yn cynnwys 10 o staff dan gontract a 13 o diwtoriaid cyswllt ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae tiwtoriaid y sefydliad yn cynnwys academyddion cyfreithiol profiadol a chyfreithwyr sy’n darparu dysgwyr â dealltwriaeth ymarferol o’r byd go iawn i’r proffesiwn.

Wrth siarad am y gydnabyddiaeth ddiweddar, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Brightlink Lorna Barldry:

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio’n andros o anodd i adeiladu sefydliad cefnogol, hyblyg gyda gwerthoedd cryf. Un sydd wir yn helpu pobl i wneud cynnydd yn ei gyrfaoedd Cyfreithiol. Mae cael cydnabyddiaeth o sawl gwobr – yn enwedig ar gyfer addysg, datblygiad proffesiynol a chyflogaeth gynhwysol  – yn rhywbeth rydym yn hynod o falch o.

Adlewyrchir y gwobrau yma ymrwymiad ein tîm, tiwtoriaid, dysgwyr a phartneriaid cyflogaeth sy’n parhau i gefnogi’r gwaith rydym yn gwneud pob ddiwrnod. Fel busnes Cymraeg teuluol, mae’n feddwl llawer i weld effaith y gwaith a chydnabyddir.

Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth a phartneriaeth barhaus gan Itec Sgiliau a Chyflogaeth. Maent wedi ein helpu i ddarparu a thyfu ein prentisiaethau ar draws Cymru.”

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau