Ysgrifennir gan Eleri Bryon, Swyddog yr Iaith Gymraeg
Roedd PrideTEC 2026 yn llond lliw, creadigrwydd a negeseuon pwerus o gynhwysiant ar draws canolfannau Cymru. Daeth dysgwyr a staff at ei gilydd am y dathliad dau ddiwrnod o Falchder, cefnogaeth a gwelededd LHDTC+. Edrychon nhw i mewn i ystyr Balchder a rhannodd eu syniadau trwy gelf, deud stori a fideos, gan gyfrannu at ddwy gystadleuaeth sefydliadol – Balchder Creadigol a’r Fideo PrideTEC.
Cymerodd pob canolfan rhan, gan gynhyrchu gwaith creadigol a meddylgar oedd yn dangos dealltwriaeth ddofn o Falchder, cefnogaeth a chynhwysiant. O gelf amryliw a darnau cyfryngau gwahanol i naratif emosiynol a chynnyrch fideo gwych, dangosodd dysgwyr eu creadigrwydd, cydweithio ac ymrwymiad rhagorol.
Categorïau’r Gwobrau
🖼️ Balchder Creadigol
Cafodd dysgwyr eu gofyn i gynhyrchu un darn creadigol yn dangos beth mae PrideTEC yn golygu i’r canolfan. Roedden nhw’n gallu creu celf, collage, dyluniadau digidol, barddoniaeth, darnau ysgrifenedig byrion neu brosiectau grŵp cyfrwng cymysg, gyda’r Gymraeg yn cael ei hannog ond nid yn ofynnol. Roedd rhaid i ddysgwyr arwain y cais a chanolbwyntio ar gynhwysiant, cefnogaeth a pharch.
Rhestr fer:
- Abertyleri
- Castell Nedd
- Coed Duon
- Cwmbrân
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Y Barri
Yn ail:
Coed Duon
Enillydd:
Cwmbrân 🎉
🥈Ail Safle Balchder Creadigol – Coed Duon
🥇Enillydd Balchder Creadigol – Cwmbrân
📽️ Fideo PrideTEC
Wnaeth dysgwyr cynhyrchu fideo 2 i 3 munud o hyd. Roedd y fideo yn gallu edrych ar beth oedd PrideTEC yn golygu i ddysgwyr, negeseuon o gefnogaeth, beth sy’n gwneud ei ganolfan yn gynhwysol, neu beth wnaethon nhw ddysgu. Roedden nhw’n gallu defnyddio droslais, capsiynau, graffig, testun neu luniau.
Rhestr fer:
- Caerdydd Dwyrain
- Casnewydd
- Castell Nedd
- Coed Duon
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Y Barri
Yn ail:
Pen-y-bont ar Ogwr
Enillydd:
Y Barri 🎉
🥇Enillydd Fideo PrideTEC – Y Barri
Sylwadau’r Beirniaid
Cafodd ceisiadau PrideTEC eu barnu can Sian Wain, Prif Diwtor, ac Ian Timbrell, sylfaenydd More Than Flags and Rainbows. Gyda’i gilydd wnaethon nhw farnu’r creadigrwydd, effaith, a negeseuon o gynhwysiant ar draws y canolfannau.
Myfyriodd Sian Wain ar safon eithriadol y gwaith a gyflwynwyd eleni:
“Roedd beirniadu gwaith PrideTEC eleni yn werth chweil, ond yn heriol oherwydd yr ansawdd rhagorol ar draws y sefydliad. Mae’n amlwg fod pob canolfan wedi gwneud ymdrech aruthrol, ac roedd gan bob cais ei hunaniaeth a’i greadigrwydd unigryw. Roedd o’n anodd dewis, a dyna pam wnaethon ni cael cefnogaeth ychwanegol gan Ian. Yn fy marn i roedd pob un ohonoch yn haeddu ennill.”
Daeth Ian Timbrell safbwynt pwerus oherwydd ei waith gyda More Than Flags and Rainbows, elusen wedi’i ymrwymo i daclo bwlio a gwahaniaethu yn ysgolion a cholegau. Mae’r sefydliad yn darparu hyfforddiant, gweithdai ac adnoddau i helpu dysgwyr a staff deall cefnogaeth, herio ymddygiad niweidiol a chreu amgylcheddau dysgu mwy diogel a chynhwysol.
Sylwadodd Ian ar gryfder lleisiau’r dysgwyr:
“Ces i fy synnu. Creodd pob un cais argraff fawr arna i… Pe bai mwy o bobl yn gwrando ar y bobl a wnaeth y ceisiadau yma, byddai’r byd yn lle llawer mwy caredig.”
Wnaeth o hefyd amlygu pam mae Balchder dal yn hanfodol:
“Mae’na gamsyniad bod Balchder yn ddathliad, ond dylen ni cofio ei bod yn brotest… Tra bod ni wedi cyrraedd cydraddoldeb cyfreithiol, nid ydym wedi cyrraedd cydraddoldeb cymdeithasol.”
Myfyrio Ychwanegol
Fel daeth PrideTEC 2026 i ben, wnaeth ein Arweinydd LHDTC+ Billy Pearce myfyrio ar effaith y digwyddiad eleni a’r creadigrwydd pwerus cafodd ei dangos gan bob canolfan. Rhannodd sut cafodd ei effiehtio’n ddwfn gan y negeseuon o genfogaeth, obaith ac undod gan y dysgwyr.
“Rwy’n parhau i gael fy ysbrydoli gan y tosturi, y dewrder a’r undod a ddangosir gan ein dysgwyr a’n cydweithwyr bob dydd. Maen nhw’n fy atgoffa bod gobaith, caredigrwydd a hapusrwydd yn y byd o hyd, a gyda’n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth.”
Dathliad o Obaith, Creadigrwydd a Chefnogaeth
Roedd PrideTEC 2026 yn arddangos y gorau o’n dysgwyr, eu creadigrwydd, eu dewrder, eu gwaith tîm a’u hymrwymiad i wneud eu canolfannau’n groesawgar i bawb. O waith celf a barddoniaeth i adrodd straeon fideo pwerus, dangosodd dysgwyr sut mae cynhwysiant yn edrych yn ymarferol: gwrando ar ein gilydd, dathlu pob wahaniaeth a sefyll gyda’i gilydd fel cynghreiriaid. Roedd yn adlewyrchiad pwerus o werth craidd Itec o gynhwysiant, a ddaeth yn fyw gan ddysgwyr ar draws canolfannau.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

















