Signposted Cymru: Cryfhau Lles y Gymuned

Cryfhau lles y gymuned

Mae ffurfio perthnasoedd cryf gyda sefydliadau gyda ffocws ar les yn hanfodol i’n rhaglen TSC+ a chefnogi datblygiad cyfannol ein dysgwyr. Credwn fod lles dysgwyr yn ganolog i lwyddiant yn academaidd ac yn broffesiynol.  

Mae ein partneriaeth gyda Signposted Cymru, elusen iechyd meddwl Cymraeg, yn cryfhau’r gefnogaeth rydym yn gallu cynnig i TSC+. Aeth Darren i’n canolfannau Aberdâr a Pontypridd i ddarparu gweithdai iechyd meddwl i’n dysgwyr. Cafodd y sesiwn effaith cofiadwy ac roedd o’n ddiddorol iawn. 

Yn dilyn hyn, mae ein partneriaeth wedi datblygu. Roedd addysgu Signposted Cymru yn tyfu a mynychodd Itec ei diwrnod agored. Fanna wnaethon ni cyfarfod a noddwyr, yr AS lleol, ac asiantaethau cefnogaeth partneriaid.  

Effaith Dysgwyr TSC+  

O’r bartneriaeth hyn, mae gan ein dysgwyr y cyfle gwych o ymweld â’r hwb lles i gymryd rhan mewn gweithdai lles. Gallent hefyd dysgu am wasanaethau cefnogaeth gymunedol, cael cefnogaeth LHDTC+ a chymryd rhan mewn sesiynau ymarfer corff. Hefyd gallent fynd am dro i gopa Pen Y Fan (wedi ei noddi) a darganfod cyfleoedd lleoliad yn yr hwb. 

Effaith ar y Gymuned 

Ers agor yr Hwb Lles Signposted Cymru yn Aberdâr, mae’r gwasanaeth wedi bod yn adnodd allweddol i’r gymuned. Maent yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl hygyrch, ymyrraeth gynnar, a gwasanaethau ataliol. Mae’r hwb yn gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau’r GIG, awdurdodau lleol, darparwyr tai a sefydliadau’r trydydd sector i gefnogi unigolion cyn iddynt gyrraedd pwynt argyfwng.  

Mae’r gwasanaethau Signposted Cymru yn gynnwys sesiynau cwnsela, rhaglennu lles, gweithgareddau ffitrwydd a chyfannol, gwasanaethau cyngor a chymunedol.  

Rydym yn falch i fod yn bartner i Signposted Cymru. Maent yn gwmni sy’n gwella’r lles a chyfleodd sydd ar gael i’n dysgwyr ac yn cryfhau lles y gymuned ehangach. 

Signposted Cymru

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau