Cynorthwyydd Therapydd Lles a Thylino Rhan-Amser

Cyflogwr: R&R Massage & Wellbeing

Oriau: 16 -20 awr yr wythnos

Swydd a chyfrifoldebau:

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a gofalgar i ymuno a’n tim lles ar sail rhan-amser. Byddai’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer person ifanc sydd â diddordeb gwirioneddol mewn therapi tylino, triniaethau harddwch, a lles cyfannol.

Byddai cymhwyster Lefel 3 mewn Anatomeg a Ffisioleg yn fanteisiol, ond nid yw’n hanfodol, gan y bydd hyfforddiant llawn a chymorth parhaus yn cael eu darparu.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu ei sgiliau ar draws ystod o driniaethau, gan gynnwys:

  • Therapiau Tylino
  • Triniaethau gofal croen a’r wyneb
  • Triniaethau i’r penglog a’r traed
  • Triniaethau harddwch sylfaenol
  • Gofal cleient a chymorth lles
  • Paratoi a chynnal a chadw’r ystafell driniaeth

Rydym yn chwilio am rywun sy’n:

  • Yn angerddol am iechyd, lles, a helpu eraill
  • Yn gyfeillgar, yn broffesiynol ac yn ddibynadwy
  • Bod yn barod i ddysgu sgiliau a thechnegau newydd
  • Cyfathrebu’n hyderus â chleientiaid
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm cefnogol

Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sy’n dymuno dechrau neu ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant lles, tylino a harddwch. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu’n fewnol, gyda chyfleoedd i ennill profiad mewn amrywiaeth o driniaethau a therapïau arbenigol.

Gwneud Cais Swydd

This field is for validation purposes and should be left unchanged.
Enw(Required)
Accepted file types: pdf, doc, docx, Max. file size: 15 MB.

Darganfyddwch sut y gall Itec eich helpu i gyflawni eich symudiad gyrfa nesaf

Ein Clientiaid TSC+