Roedd Itec yn falch o noddi Gwobrau blynyddol Cenedl Noddfa Cymru y Cyngor Ffoaduriaid Cymraeg. Mae’n ddigwyddiad ysbrydoledig sy’n cydnabod cryfder, gwytnwch a llwyddiant ffoaduriaid a phobl sy’n chwilio am noddfa ar draws Cymru.

Ers 2019, mae’r gwobrau wedi rhoi platfform i gydnabod unigolion sydd wedi ail adeiladu eu bywydau ac wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i’w cymunedau. Mae straeon nhw yn herio stereoteipiau ac yn hybu gobaith trwy Gymru gyfan.

Yn adlewyrchu ar ddigwyddiad eleni, dywedodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru:

“Eleni, mae’r gwobrau yn teimlo’n bwysicach nag erioed. Yn erbyn cefndir o ansicrwydd a newid i’r system ffoaduriaid a lloches, rydym wedi gweld dewrder, undod a thosturi anhygoel. Ar draws Cymru, mae cymunedau wedi dod at ei gilydd i gynnal gwerthoedd gwarchod, hyd yn oed pan oedd o’n anodd. Mae’r gwobrau hyn yn disgleirio golau ar y rhai sy’n parhau i ddewis dynoliaeth. Nid ydynt yn ddathliad yn unig, maent yn atgof o’r hyn y rydyn ni ar hyn o bryd, a’r hyn rydym eisiau bod.”

Cyflwynodd Julie Dyer, Pennaeth Gweithrediadau Itec, y Wobr Person Ifanc Ysbrydoledig. Yn ei chyflwyniad, dywedodd:

“Rydym yn falch o fod yn sefydliad Cymraeg annibynnol gyda dros 44 blwyddyn o brofiad yn cefnogi pobl i gyflawni eu goliau. Gweithiwn ar draws Cymru gan ddarparu hyfforddiant, rhaglenni cyflogadwyedd a chyfleoedd datblygu sgiliau, gan gynnwys Prentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru+. Ein huchelgais ydy creu byd lle gall unigolion a busnesau ffynnu be bynnag daw yn ei dyfodol. Ein cenhadaeth ydy i rymuso pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn a helpu nhw i siapio dyfodol eu hunan.”

Mae’r Wobr Person Ifanc Ysbrydoledig yn cydnabod ceiswyr lloches rhwng 16 mlwydd oed a 30 sy’n creu effaith positif yn eu cymunedau trwy eu talent, uchelgais ac ymrwymiad. Mae’n dathlu pobl ifanc sy’n dangos potensial cryf, sy’n ysbrydoli eraill ac sy’n cyfrannu’n ystyrlon i’w cymdeithas.

Adiodd Julie:

“Rydym yn hynod o falch i noddi’r wobr hon oherwydd mae cefnogi a dathlu gwytnwch, penderfyniaeth a photensial pobl ifanc wrth galon popeth a wnawn. Gwelwn bob dydd sut gall y gefnogaeth a chyfleoedd cywir trawsnewid bywydau. I ffoaduriaid a’r rhai sy’n ceisio lloches, rydym yn deall yr heriau o ailadeiladu bywyd mewn gwlad newydd, ac rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth..”

Roedd yr enillydd eleni Ali Otman yn dangos y gwerthoedd yma i gyd. Ar ôl cyrraedd yn y Deyrnas Unedig yn 2023, dechreuodd Ali i gefnogi pobl eraill wrth adeiladu dyfodol ei hunan. Gweithiodd yn galed i ddysgu Saesneg a nawr mae o’n chwarae rôl allweddol yn arwain grŵp ieuenctid yn Abertawe o geiswyr lloches eraill.

Dywedodd y Cyngor Ffoaduriaid Cymraeg:

“Mae Ali yn defnyddio ei brofiad i helpu pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd, o dimau pêl-droed i hyfforddiant ac ymweld â phrifysgolion. Mae o’n adeiladu ffydd, yn annog hyder ac yn helpu pobl eraill i deimlo fel bod ganddynt farn a lle yn y byd.”

Yn Itec rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bawb mynediad at gyfleoedd cynhwysol o safon uchel a’u bod yn teimlo’n ddiogel, wedi cefnogi ac wedi grymuso i ffynnu. Mae cynhwysiant, grymuso, angerdd i ddysgu a thwf yn arwain popeth a gwnawn.

Mae’n fraint i ddathlu pobl ifanc mor rhagorol yn ei siwrneiau ysbrydoledig.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau