Yma yn Itec…
Rydyn ni yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bob dysgwr y cyfle i ddisgleirio beth bynnag eu cefndir. Mae twf EP a JL, cyfrannwr ymrwymedig ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+, yn amlygu effaith cymorth bersonol. Ar ben hynny, mae’n dangos cryfder ein partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro. Dangosir lwyddiant nhw beth sy’n bosib pan fydd darpariaeth wedi ei theilwra a chydweithio ystyrlon yn dod at ei gilydd.
Mae gan EP a JL anghenion dysgu ychwanegol lefel uchel. O’r ddechrau wnaeth ein tîm gweithio’n agos gyda nhw a’u teuluoedd i adeiladu amgylchedd dysgu oedd yn teimlo’n hygyrch, diogel, ac yn wirioneddol gefnogol. Roedd hyn yn cynnwys addasu dulliau addysg, cynnig tiwtora Sgiliau Hanfodol 1:1, ariannu trafnidiaeth, cynnig sesiynau llesiant, a sicrhau trefniadau mynediad addas. I leihau rhwystrau ymhellach, wnaeth ein staff cynnal asesiadau yn ystod eu profiad GIG. Roedd hyn yn elfen allweddol i helpu’r ddau unigolyn teimlo’n hyderus i weithio mewn amgylchedd gweithle go iawn.
Canlyniad
O ganlyniad i’w dyfalbarhad, arweinodd ymdrech EP at sawl cyrhaeddiad nodedig. Gan gynnwys cymhwyster Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, a dyfarniad Lefel 1 Defnyddiwr TG. Rŵan mae hi’n gweithio tuag at Lefel 2 Cefnogi Iechyd a Lles, ac mae hi’n meithrin sgiliau sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol a rolau’r GIG. Yn yr un modd, mae JL wedi rhagori. Gan sicrhau cymwysterau Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu wrth weithio tuag at Lefel 1 Llythrennedd Digidol a Lefel 1 Cefnogi Iechyd a Lles. Nid yn unig oes ganddyn nhw gymwysterau academig, maen nhw hefyd wedi cymryd camau tuag at annibyniaeth, hunan hyder, a chyflogadwyedd hirdymor.
Yn naturiol, teimlodd eu teuluoedd effaith positif y cymorth yma. Dywedodd un rhiant:
“Dwi’n eich canmol i unrhyw un bydd yn gwrando! Mae Itec wedi bod yn ardderchog i EP.”
Yn wir, mae adborth fel hyn yn pwysleisio’r gwahaniaeth gallai darpariaeth wedi’i theilwra gwneud. Nid yn unig i ddysgwyr ond hefyd i’r rhai sy’n cefnogi nhw.
Ein partneriaeth
Yn ogystal, chwaraewyd ein partneriaeth gyda BIP Caerdydd a’r Fro rhan drawsnewidiol. Cafodd y ddau ddysgwr profiad gwaith oedd yn cyd-fynd gyda chryfderau nhw; EP gyda gweinyddu, a JL gyda chofnodion a ffeilio. Yn ychwanegol, rhoddodd yr amgylcheddau hyn strwythur arferol, cydweithwyr cefnogol, a thasgau oedd yn caniatáu nhw i ddisgleirio. Diolch i ymrwymiad BIP, teimlodd y dysgwyr croeso mawr, wedi ei gwerthfawrogi, ac yn fedrus i lwyddo o’r diwrnod cyntaf.
Adlewyrchodd AMG, Rheolwr Gwasanaethau Profiad wedi’u Cefnogi ar y bartneriaeth: “Mae’r trawsnewidiad o brosiect CHWILIO i Itec wedi bod yn llyfn ac yn syml. Mae’r gefnogaeth a darparwyd gan staff Itec wedi bod yn arbennig.”
Adiodd NP, Rheolwr Gweithle a Recriwtio:
“Cynigr ein partneriaeth gydag Itec a Phrosiect Chwilio llwybr di-dor at gyflogaeth ystyrlon i bobl ifanc gydag ADY, gan ddangos gwir effaith ein hagwedd cydweithredol”
Gyda’i gilydd, mae’r rhwydwaith cefnogol yma wedi creu llwybr cryf i mewn i’r GIG. O ganlyniad mae’r ddau ddysgwr wedi cael profiad gwaith ymarferol, wedi derbyn cymwysterau, codi hyder, a chymryd camau mawr tuag at gyflogaeth barhaus o fewn sectorau maen nhw’n angerddol am.
Casgliad
I gloi, dangosir straeon EP a JL pa mor bell gallai pobl ifanc gydag ADY mynd pan mae ganddyn nhw y cyfleoedd cywir, y canllawiau cywir, a’r amgylchedd cywir i dyfu. Yma yn Itec, rydym yn mor falch o lwyddiannau nhw, ac edrychwn ymlaen yn fawr i weld beth sydd nesaf iddyn nhw.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.
Prentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru+ dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Prentisiaethau yn Lloegr dan arweiniad yr Adran Addysg.

















