Ledled Cymru mae’r byd gwaith yn newid yn gyflym. Mae datblygiadau technegol, shifftiau demograffig, a newidiadau cymdeithasol yn ail-siapio beth mae cyflogwyr angen, a’r sgiliau bydd yn diffinio llwyddiant cymunedau trwy gyfrwng y degawd nesaf ymlaen.

Fel arweinydd hyfforddiant Cymraeg sy’n arbenigo mewn darpariaeth prentisiaethau Gofal Iechyd a Chymdeithasol, Gofal Cymunedol, Datblygiad Chwarae ag Addysg (DCA), Rheolaeth Busnes, a Gweinyddwr Busnes, rydyn ni fel Itec mewn safle unigryw i weld lle mae dyfodol gwaith yn mynd, a lle mae bylchau sgiliau yn ehangu.

Dyma’r pethau rydym yn disgwyl bydd angen ar Gymru yn erbyn 2030, a pham prentisiaethau yw’r ateb strategol ar gyfer unigolion, cyflogwyr, a’r economi Gymreig.

1. Mae’n Rhaid i Sgiliau Gofal bod wrth Galon Gweithlu Cymru

Mae Cymru yn wynebu newid annisgwyl demograffig. Yn erbyn 2030 bydd nifer y boblogaeth 65+ yn cynyddu’n sylweddol, a bydd y gofyn am wasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol yn codi’n fawr.

Ond nid yw gofal amdan capasiti. Mae o fwy amdan weithwyr tosturiol, proffesiynol, medrus, pwynt oedd yn cael ei amlygu gan Bennaeth addysg a Datblygiad Addysg a Gofal Orbis, Debra Durham.

Mae Prentisiaethau Gofal Iechyd a Chymdeithasol a DCA yn darparu hyn, gan adeiladu calledd technegol a dealltwriaeth emosiynol, ymarfer moesegol a dulliau gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o’r diwrnod cyntaf. Fel gallech weld trwy astudiaethau achos fel Aria, prentisiaid yw wyneb y swydd, gan sicrhau bod nhw’n ymateb i heriau wrth iddynt dderbyn cymhwyster cydnabyddus.

 

Effaith:

✔ Lleihau prinder yn y gweithlu
✔ Gwella ansawdd canlyniadau gofal
✔ Yn gosod swyddi medrus ar draws y Gymru wledig a threfol

2. Nid yw Sgiliau Gwasanaeth Cwsmer a Rhyngbersonol yn Dewis Dim Mwy

Hyd yn oed mewn meysydd technegol mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol, datrys gwrthdaro, ochri gyda’r cwsmer a darparu arbenigrwydd yn hanfodol. Mae busnesau Cymreig o letygarwch i ofal iechyd angen unigolion proffesiynol sy’n gallu cynrychioli brand nhw gyda hyder a gofal.

Mae prentisiaethau Gwasanaeth Cwsmer mewn safle unigryw i sefydlu syniadau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn ddwfn ac yn gynnar, gan gyfuno gwybodaeth academaidd â realiti yn y gweithle. Mae prentisiaethau fel Luke Jones o EE yn cyfrannu o’i diwrnod cyntaf, yn adeiladu enw da, refeniw a gwytnwch i gyflogwyr Cymreig.

Effaith:
✔ Cryfhau cystadleuaeth mewn marchnadoedd lleol a byd-eang
✔ Adeiladu diwylliant o ffydd a pharch
✔ Diogelu dyfodol swyddi na fydd technoleg yn gallu gwneud

3.  Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Economi mwy Hyblyg

Mae’n rhaid i weithlu’r dyfodol bod yn hyblyg, gallu arwain newid, rheoli timau hybrid, a chyflymu arloesedd yn gyflym. Mae prentisiaethau Rheoli Busnes a Gweinyddiaeth Busnes yn galluogi dysgwyr i ddatblygu meddwl strategol, arweinyddiaeth prosiect, ymwybyddiaeth ariannol a gallu digidol.

Fel gyda Dirprwy Rheolwr Gofal Cartref Farleigh Ioana Rusu, nid yn unig ydy prentisiaethau yn llenwi swyddi, maen nhw’n meithrin arweinwyr sy’n deall sut i arwain timau, gwella cynnydd a chadw twf mewn amgylchiadau ansicr.

Effaith:
✔ Creu arweinwyr busnes lleol yng Nghymru
✔ Gwella cynhyrchiant ar draws meysydd
✔ Achosi gwytnwch economaidd a chystadleuaeth

4. Cau’r Bwlch Sgiliau Trwy Gynnydd, Llwybrau Cynhwysol

Mae llwybrau traddodiadol addysg ar ben ei hunan yn werthfawr, ond nid ydynt yn gallu ateb y gofyn y nifer o sgiliau gwahanol sydd eu hangen ar gyfer 2030. Mae prentisiaethau yn newid yr arfer wrth ddarparu:

Llwybrau addysg a chyflog

Integreiddio cryf a gofynion cyflogwyr

Cydnabod llwybrau dysgu a chynnydd blaenorol

Hyblygrwydd ar gyfer pobl sy’n dechrau gyrfa neu’n newid eu gyrfa

Ar gyfer unigolion, gall prentisiaethau cynnig llwybr clir i yrfaoedd medrus heb rwystrau ariannol rhaglenni traddodiadol. Ar gyfer cyflogwyr maent yn cynnig model cost effeithiol wedi’i theilwra i dyfu talent yn enwedig mewn meysydd lle gall cyflogi bod yn anodd.

5. Prentisiaethau yn Helpu’r Economi a Llesiant Cymunedau Lleol

Mae prentisiaid sy’n cael ei hyfforddi yng Nghymru yn fwy tebygol o aros yng Nghymru. Mae hyn yn cryfhau cymunedau, yn adeiladu capasiti rhanbarthol, ac yn sicrhau bod sgiliau yn y lle sydd eu hangen nhw bod hynny yng Nghaerdydd, Wrecsam, Aberystwyth thu hwnt.

Mae canolfannau gofal iechyd, hybiau cymuned, busnesau bach a chwmnïau amlwladol sy’n gweithio gydag Itec i gyd yn buddsoddi pan mae prentisiaethau yn cyflawni cyfleoedd lleol a goliau economaidd cenedlaethol.

Mae Prentisiaethau yn Fuddsoddiad Strategol

Yn erbyn 2030 dylai’r economi Cymreig bod yn hyblyg, tosturiol, cystadleuol ac yn fedrus. Gall prentisiaethau helpu sicrhau’r dyfodol yna oherwydd:

✔ Maent yn cau bylchau’r gweithlu lle mae’r gofyn yr uchaf
✔ Maent yn adeiladu sgiliau trawsnewidiol mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi
✔ Maent yn cefnogi addysg gydol oes a hyblygrwydd gyrfaol
✔ Maent yn cadw talent tu fewn i gymunedau Cymreig

Fel darparwr hyfforddiant sydd wedi’i ymrwymo i arbenigrwydd, mae Itec yn gweld llwybrau sy’n gweithio a chanlyniadau sydd o bwys. Nid yw prentisiaethau dim ond yn dewis gwahanol i’r arfer, maent yn injan i ddyfodol gweithlu Cymru, gan sicrhau bod pobl a chyflogwyr yn llwyddo mewn byd sy’n newid trwy’r adeg.

Gyda’n gilydd, gallem baratoi Cymru, nid yn unig ar gyfer dyfodol ei hunan ond i arwain y ffordd.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau