Mae Itec Sgiliau a Chyflogaeth yn falch o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i sicrhau grant gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) i ddarparu Cam 1 o’r rhaglen Gwarant Swyddi yn Ne-ddwyrain a De-orllewin Cymru.
Dyluniwyd y rhaglen i gefnogi pobl i mewn i gyflogaeth gynaliadwy trwy gynnal hyfforddiant wedi’i theilwra, cefnogaeth cyflogaeth a chyfleoedd swyddi gyda chyflogwyr lleol. Trwy’r grant, bydd Itec Sgiliau a Chyflogaeth yn gweithio’n agos gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a sefydliadau partner i helpu unigolion i ddatblygu’r sgiliau, hyder a phrofiad sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn y farchnad llafur.
Dangosir y llwyddiant yma hanes cryf Itec o ddarparu rhaglennu cyflogadwyedd a sgiliau, yn ogystal â’i ymrwymiad i gefnogi cymunedau a chryfhau’r economi Cymraeg.
Wrth siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Gareth Matthews, Cyfarwyddwr Itec Sgiliau a Chyflogaeth:
“Rydym yn andros o falch ein bod wedi derbyn y grant hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r rhaglen Gwarantu Swyddi yn cyd-fynd yn agos â’n cenhadaeth i rymuso unigolion drwy sgiliau a chyflogaeth. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r cyfranogwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid i greu gwahaniaeth gwerthfawr ar draws y De-ddwyrain a’r De-orllewin.”
Cychwynnir darpariaeth y Warant Swyddi yn unol ag amserlenni’r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda ffocws ar greu canlyniadau cadarnhaol i gyfranogwyr a chyflogwyr.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.
Prentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru+ dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Prentisiaethau yn Lloegr dan arweiniad yr Adran Addysg.

















