Eglwys Glenwood

Cryfach Gyda’n Gilydd:

Itec ag Eglwys Glenwood – Partneriaeth Cefnogi Potensial

Mae partneriaeth Itec gydag Eglwys Glenwood wedi parhau i gryfhau ar gyfer dysgwyr Twf Swyddi Cymru+ (TSC+) ers mis Mawrth 2023. Profiad cymunedol ydy Canolfan Eglwys Glenwood, gyda’r dysgwyr sydd wedi ac sydd am wneud y profiad yn byw yn yr ardal Llandeyrn, Caerdydd. Mae’r profiad yma wedi bod yn hollbwysig i saith dysgwr ar y rhaglen newidiol hon.

Pan fydd gan ddysgwr diddordeb yn Glenwood, bydd Swyddog Cyflogi Itec yn cymryd nhw am drafodaeth anffurfiol lle cawn eu dangos o gwmpas y safle.

Gyda neuadd gymunedol fawr, mae Eglwys Glenwood yn brofiad arbennig i ddysgwyr, gyda chwaraeon cymunedol a chyfarfodydd cynulleidfa ar y Dydd Sul. Mae Eglwys Glenwood hefyd yn cynnig pantri bwyd i’r rhai yn y gymuned sy’n straffaglu, talwn gyda thaleb, a derbyniwn fwyd sy’n fwy na’r gwerth. Rydym yn bartner andros o falch i rannu’r un gwerthoedd cymunedol.

Mae Canolfan Eglwys Glenwood yn hwyluso llawer o gyfleoedd twf i ddysgwyr Itec. O bêl-rwyd eistedd lawr, i wneud te a choffi i’r genhedlaeth hŷn, pantri wythnosol, i sprogz (grwp mamis a babis).

Mae’r rhaglen Twf Swyddi Cymru a darparwyd gan Itec ar draws De Cymru wedi cael effaith positif ar Ganolfan Eglwys Glenwood. Yn enwedig gyda digwyddiadau calendr yr Eglwys dros Basg a Nadolig. Ym mis Rhagfyr, cafodd dysgwyr Itec y dasg o helpu codi ac addurno dros ugain Coeden Nadolig.

Mae Glenwood wedi bod yn rhan allweddol o sicrhau bod gan bob dysgwr ar brofiad y cyngor sydd eu hangen. Maent wedi mynd tu hwnt i be ddisgwylir gyda’r angerdd dangoswn i ddysgwyr yn ddyddiol. Maent yn cynnig lleoliad pobl ifanc yn unig, a lle diogel i fynd os bydd y dysgwyr yn teimlo’r straen gormod. Maen nhw’n gefnogaeth hollbwysig i ddysgwyr gydag iechyd ffisegol neu iechyd meddwl fel pryder, ADHD, ac awtistiaeth, sy’n cael eu cefnogi gan y tîm Itec a’r cwricwlwm TSC+.

O ganlyniad i’r profiad, cwblhawyd dysgwyr Itec: Cymhwyster Lefel 1 Cyflwyniad i Iechyd Gofal a Chymdeithasol, QCF Lefel 1 Gwasanaeth Cwsmer. Rŵan maent yn oedolion ysbrydoledig. Dywedai’r adborth o ddysgwyr y gorffennol a’r presennol bod profiad gyda Glenwood wedi rhoi iddynt gyfleoedd nad oedd ar gael o blaen.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau