Heddiw cyhoeddodd Itec Sgiliau a Chyflogaeth ei ardystiad fel Corfforaeth-B (neu Gorff-B). Mae’n ymuno grŵp o gwmnïau sy’n ail-ddiffinio busnes trwy fynd ar ôl pwrpas yn ogystal ag elw. Ardystir Itec gan Lab-B (y nid-er-elw tu ôl symudiad Corff-B) fel busnes sydd wedi cyrraedd safonau cymdeithasol ac amgylcheddol trwyadl.

Mae’r ardystiad Corff-B yn mynd i’r afael â’r holl weithrediadau busnes. Hefyd mae’n cwmpasu pum maes effaith allweddol sef Llywodraethu, Gweithwyr, Cymuned, Amgylchedd a Chwsmeriaid. Mae’r proses o ardystio yn drylwyr. Gofynnir i ymgeiswyr gyrraedd sgôr meincnod o dros 80. Bu rhaid iddynt darparu tystiolaeth o arferion cymdeithasol ac amgylcheddol gyfrifol sy’n ymwneud â chyflenwadau ynni, gwastraff a defnydd dŵr, iawndal gweithwyr, amrywiaeth a thryloywder corfforaethol.

Dywedodd Gareth Matthews Cyfarwyddwr Itec, “Mae derbyn yr ardystiad Corff-B yn rhywbeth rydym yn andros o falch o. Adlewyrchir ein cred y dylai busnes creu effaith positif a gwerthfawr. Er enghriafft gwella bywydau, cryfhau cymunedau, a diogelu’r amgylchedd. Adnabyddir yr ardystiad yma gwaith caled ein timau ar draws y DU sy’n byw’r gwerthoedd yma pob ddiwrnod. Gosodir meincnod clir ar gyfer y math o sefydliad yr ydym yn ymdrechu i fod. Rydym yn gyffrous i ymuno a’r gymuned Corff-B a pharhau i greu newid positif ar draws ein sector.”

Pellach mae Itec yn rhan o gymuned o 9,000 o fusnesau ar draws y byd sydd wedi ardystio fel Corff- B. Mae cymuned Corff-B yn y DU, sy’n cynrychioli trawstoriad eang o ddiwydiannau a meintiau, yn cynnwys dros 2,500 o gwmnïau. Ymunwn brandiau adnabyddus fel The Guardian, innocent, Patagonia a bwyd organig arloeswyr Abel & Cole.

Dywedodd Chris Turner Cyfarwyddwr Gweithredol Lab-B, “Rydym yn falch iawn o groesawi Itec i’r gymuned Corff-B. Mae hyn yn symudiad ar gyfer sefydliadau sydd wedi ymrwymo i newid sut mae busnesau yn gweithredu ac sy’n credu gallai busnes bod yn rym er gwell. Rydym yn gwybod bydd Itec yn ychwanegiad gwych at y gymuned a byddwn yn parhau i wthio’r drafodaeth ymlaen.

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau