Mae ein canolfan Abertawe wedi dathlu blwyddyn arbennig o gynnydd, blwyddyn fawr o dwf, bartneriaethau, ac ysbrydoli llwyddiant ein dysgwyr.
Ar Ebrill 22, agorodd drysau’r canolfan i staff, partneriaid, a dysgwyr, i ddathlu llwyddiannau’r 12 mis diwethaf. Wrth i’r canolfan llenwi roedd yr awyrgylch yn llond egni. Roedd yna ddiodydd croeso, bwyd, a chyflwyniad i amlygu effaith a llwyddiant y canolfan.
Cychwynnodd Adele Hughes, Rheolwr Gweithrediad Twf Swyddi Cymru+ Itec y cyflwyniad gan adlewyrchu ar y siwrne hyd yma. Wnaeth hi rannu;
“Mae o wedi bod yn flwyddyn gyffrous a gwerthfawr”. “Cymerwn eiliad i gydnabod gwaith caled ac ymrwymiad y tîm a wnaeth y flwyddyn orffennol yn llwyddiant. Baswn hefyd yn hoffi diolch y partneriaid a wnaeth cefnogi ni o’r cychwyn i le rydyn ni heddiw”.
Creodd ei sylwadau awyrgylch o ddathliad twf a gwerthfawrogi.
Cyflwynodd Hannah Sloan Cydlynydd Lles TSC+ y twf rhagorol i ystafell lawn, gan amlygu:
“Mae ein tîm wedi tyfu o ddau i ddeuddeg gweithiwr, cryfheir hyn ein gallu i gyflawni”. “Tyfwn o wyth dysgwr i 170, sy’n dangos ein cyflymder addasu rhaglennu… tyfwn ein cyfleoedd profiad o 1 i 21, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad cryf gweithwyr”.
Parhaodd i bwysleisio bod llwyddiant y canolfan yn fwy na rhifau.
“Adlewyrchir y twf i gyd ein partneriaethau cryf, allbwn effeithiol a dysgwyr safon uchel… nid yw ein heffaith ‘mond yn raddfa; mae’n ganlyniadau. Derbyniodd 85% o’n dysgwyr cymhwyster ffurfiol, parhaodd 81.2% i mewn i gyflogaeth, addysg bellach neu hyfforddiant. Darparwn 1040+ o sesiynau cymorth ystyrlon i’n dysgwyr.”
Gair gan ein Partner
Sgleiniodd y cyflwyniad golau canolbwynt ar ein partneriaid TSC+ sy’n chwarae rhan allweddol trwy gefnogi’n dysgwyr.
Pwysleisiodd Ian Evans o Greenspaces SOS gwerth partneriaeth nhw gyda TSC+, dywedodd:
“Rydyn ni wedi cael saith lleoliad dros y flwyddyn a hanner diwethaf ac wedi taflu dau ddigwyddiad cymunedol mawr gydag Itec. Daeth pedwardeg i bumdeg dysgwyr i mewn i helpu ar ein prosiectau, mae ’di bod yn allweddol i’n twf rhagorol dros y ddwy flwyddyn ddiwethaf”.
Aeth o ymlaen i esbonio pa mor hanfodol ydy’r bartneriaeth i’w sefydliad. “Heb Itec, dwi heb syniad lle baswn ni ‘di ffeindio gweithwyr 16-19-mlwydd oedd sy’n ffitio ein model o hyfforddi pobl o’r cychwyn. Byddwn yn cymryd dau ddysgwr ymlaen dros y cwpl o fisoedd nesaf.”
Rhannodd Christine, rheolwr gwirfoddol Cwtsh Mawr pa mor hanfodol ydy’r bartneriaeth:
“Rydym yn bartner gydag Itec ac yn cael dau lif o ddysgwyr… maen nhw’n dod i mewn a darparwn lif gwaith hanfodol. Ar hyn o bryd mae gennym dau ddysgwr, maen nhw’n anhygoel a’r bobl fwyaf neis, maen nhw’n rhoi gymaint i’r cwmni”
Adiodd pa mor hanfodol ydy’r gefnogaeth i’w cenhadaeth:
“Rydym yn mor ddiolchgar oherwydd fel arall dydyn ni ddim yn gallu gwneud yr hyn rydyn yn gwneud… gan ein bod yn elusen gymunedol.”
Straeon Dysgwyr
I ddod a’r cyflwyniad i ben, wnaethon ni troi ein sylw i galon y rhaglen TSC+, straeon anhygoel y dysgwyr.
Myfyriodd Brendan ar sut newidiodd Itec ei farn ar addysg. “Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb yn addysg pan gyrhaeddais Itec, ond ces i groeso cynnes, roedd pawb yn garedig, mae’n sefydliad da iawn i fod yn rhan o. Mae’n berffaith i rywun sy’n ansicr beth i wneud gyda’i bywyd.”
Roedd Callum yn gwybod ei bod eisiau mynd i brifysgol i fod yn fargyfreithiwr. Ond, roedd diffyg ei TGAU Mathemateg wedi ei adael yn ansicr o’i gam nesaf am gwpl o fisoedd tan ffeindiodd Itec Abertawe. “Mae Itec yn groesawus iawn” dywedodd. “Roedd yna lawer o gyfleoedd, rhaglennu, profiadau, a chyfleoedd gwaith.”
Adiodd Hannah Sloan:
“Nid yn unig ydy ein dysgwyr yn cwblhau’r rhaglen, maen nhw’n tyfu gyda phwrpas ac yn creu dyfodol mwy positif a chynaliadwy.”
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau bwcio cwrs hyfforddiant ar gyfer chi’ch hunan, cydweithiwr neu’r tîm cyfan, mae gennym becyn hyfforddi sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael eu ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

















