Technegydd Peiriant Coffi dan Hyfforddiant
Lleoliad: Brynmenyn, Pen-Y-Bont ar Ogwr gyda bach o deithio (dim dreifio)
Cyflogwr: Cortile
Oriau Gwaith: Llawn Amser
Trosolwg y Swydd:
Byddwch yn gweithio yn ein Canolfan Gwasanaethau yn nhîm bach o Beirianwyr yn atgyweirio a thrwisio peiriannau coffi ar gyfer cwsmeriaid masnachol a domestig.
Byddwch yn dysgu ac yn datblygu’r sgiliau i gydnabod a atgyweirio diffygion peiriant trwy arsylwi a chynorthwyo’r Peirianwyr Gwasanaeth gyda’u dyletswyddau dydd i ddydd. Gall hyn gynnwys rhywfaint o deithio a fydd yn cynnwys cynorthwyo’r Peirianwyr i godi’r peiriannau coffi ar safle’r cwsmeriaid.
Cyfrifoldebau:
• Sicrhau bod ardaloedd y gweithdai yn drefnus, yn lân ac yn ddiogel
• Cynorthwyo uwch beirianwyr i fynd i safleoedd cwsmeriaid ar gyfer gosod peiriannau coffi, gwasanaethu ac atgyweirio
• Cynorthwyo Uwch Beirianwyr gyda swyddi gweithdy
• Rheoli stoc y rhannau
• Archebu stoc gan gyflenwyr
• Gwirio’r nwyddau sy’n cyrraedd
• Cysylltu â Chyflenwyr a Chwsmeriaid drwy e-bost ac wyneb yn wyneb
• Rhannu gyda’r cydlynydd gwasanaeth i gynorthwyo i sicrhau bod yr adran wasanaeth yn rhedeg yn ddidrafferth
Profiad a Sgiliau Hanfodol
• Rhaid bod yn iach yn gorfforol – bydd y rôl hon yn cynnwys codi a symud peiriannau coffi
• Yn dechnegol o ran eich meddwl a rhaid i chi gallu dangos diddordeb brwd mewn Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, ar lafar ac ar e-bost
• Gallu defnyddio technoleg gwybodaeth yn hawdd a dealltwriaeth ymarferol o raglenni Microsoft
• Sgiliau rhif rhagorol
• Gallu gweithio’n fanwl
• Y gallu i gyfeirio’n dda a chydweithio fel rhan o dîm
• Y gallu i gyflawni amrywiaeth o dasgau
• Sgiliau datrys problemau cryf a’r gallu i feddwl yn greadigol
• Lefel A neu gyfwerth o addysg
Sgiliau Dymunol
• Cymhwyster mewn Peirianneg Fecanyddol neu Drydanol
Gwneud Cais Swydd
Darganfyddwch sut y gall Itec eich helpu i gyflawni eich symudiad gyrfa nesaf
Ein Clientiaid TSC+






