Gweinyddwr Canolfan Wasanaeth
Lleoliad: Brynmenyn, Pen-Y-Bont Ar Ogwr
Cyflogwr: Cortile
Oriau Gweithio: Swydd Llawn Amser
Trosolwg y Swydd
Mae hon yn swydd llawn amser yn y swyddfa, yn gweithio gydag ystod eang o gwsmeriaid a darparu lefel uchel o wasanaeth. Mae hyn yn cynnwys gyda’n cyflenwadau coffi a’n Gwasanathau Gwasanaethu a Thrwsio ar draws Cymru i gyd, De Lloegr a Llundain Canolog. Cynorthwyo ‘r Cydlynydd Gwasanaeth gyda rheoli’r calendr trwy bwcio swyddi i’n tîm o beirianwyr i sicrhau bod yr holl osodion, atgyweiriadau a gwasanaethau yn cael eu cwblhau a’u hanfon mewn modd amserol gan gynnwys amserlennu a chynllunio llwybr.
Cyfrifoldebau:
- Cwrdd a chyfarch ymwelwyr i’r Canolfan Gwasanaethau
- Cadw derbynfa’r Ganolfan Gwasanaeth wedi’i drefnu, yn lân ac yn ddiogel
- Ymdrin â holl ohebiaeth y Ganolfan Gwasanaeth dros y ffôn ac ar e-bost
- Bwcio ceisiadau Gwasanaethu ac Atgyweirio gan cwsmeriaid Masnachol a Domestig
- Cynnal calendr y Gwasanaeth, gan sicrhau bod y wybodaeth yn gywir ac yn gyfoes
- Cysylltu â pheirianwyr gwasanaeth pan fydd angen, gan gynnwys mynd ar ôl taflenni gwaith sydd dal ei angen
- Cymryd taliadau cerdyn dros y ffôn ac wyneb yn wyneb
- Anfonebu Cwsmeriaid a Phartneriaid Gwasanethau yn amserol
- Bwcio atgyweirio domestig pan derbynnir i’r Ganolfan Gwasanaethau
- Tracio cynnydd peiriannau’r gweithdy sy’n cadw cwsmeriaid yn gyson
- Cadw cofnodion cywir o weithgareddau’r Canolfan Gwasanaethau
- Cynorthwyo cydlynydd y Gwasanaeth gyda’r holl ddyletswyddau gweinyddol eraill o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau bod yr Canolfan Gwasanaethau yn rhedeg yn ddidrafferth
Essential Experience and Skills
- Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol cadarn, ar lafar, ac ar e-bost
- Trefnus iawn
- Technoleg Gwybodaeth effeithiol gyda dealltwriaeth Microsoft
- Gallu cyfarwyddo’n dda a chydweithio fel rhan o dîm
- Gallu cyflawni tasgau amrywiol
Dymunol
- Profiad mewn gwasanaeth cwsmeriaid neu swydd berthnasol
- Sgiliau gweinyddol rhagorol gyda phrofiad perthnasol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd prysur
- Sgiliau datrys problemau cadarn a’r gallu i feddwl yn gyflym
- Profiad o reoli amserlenni a sicrhau y darperir gwasanaethau yn brydlon
Gwneud Cais Swydd
Darganfyddwch sut y gall Itec eich helpu i gyflawni eich symudiad gyrfa nesaf
Ein Clientiaid TSC+






