William Mainala @ Gofal Iechyd & Chymdeithasol
Twf ar Bob Lefel: Siwrne Arweinyddiaeth William
Barod am Gynnydd
Pan gychwynnodd William Mainala yn y maes gofal iechyd a chymdeithasol yn 2019, roedd o’n weithiwr gofal gyda gôl glir: i dyfu, i ddeall ei swydd yn well, ac i adeiladu gyrfa werthfawr mewn arweinyddiaeth. Wnaeth yr uchelgais yma arwain o i Itec, a chychwynnodd o’r cymhwyster Gofal Iechyd & Chymdeithasol Lefel 2.
O’r dechrau, sylweddolodd William fod dysgu strwythuredig yn gallu cryfhau ei hyder a datblygu ei sgiliau i fedru gofalu am bobl yn fwy effeithlon. Roedd pob cymhwyster yn gam academaidd a phroffesiynol.
Siwrne Twf Cyson
Wrth i William gwneud Lefel 3 a 4, wnaeth o gynyddu yn ei gyrfa hefyd. Cafodd o ddealltwriaeth ddyfnach oedd o’n gallu defnyddio’n uniongyrchol o ddydd i ddydd, wnaeth hyn helpu o i ddeall cymhlethdodau gofal, arweinyddiaeth, a darparu gwasanaeth.
Heddiw, mae o’n falch o fod Dirprwy Rheolwr gofal preswyl – swydd wnaeth o gyrraedd trwy fod yn benderfynol ac yn hyderus.
Cefnogaeth sy’n Creu Gwahaniaeth
Mae William yn disgrifio ei brofiad gydag Itec fel arbennig. Trwy gydol ei gymhwyster, cwrddodd o aseswyr oedd yn herio fo, annog o, a helpu o i weld persbectif newydd yn ei waith. Nid yn unig wnaeth cyngor nhw helpu o i gwblhau tasgau, ond hefyd wnaeth o helpu siapio’r arweinydd mae o heddiw.
Mae o’n myfyrio ar ei effaith gyda diolchgarwch:
“Gwnaethant wella fi mewn pob ffordd… dwi’n hynod o ddiolchgar.”
Daeth y gefnogaeth yma’n andros o bwysig yn ystod ei gymhwyster Arweinyddiaeth & Rheolaeth Lefel 5, cam mae’n disgrifio fel un trawsnewidiol.
O Ddysgu i Ymarfer
Un o lwyddiannau mwyaf William yn ystod Lefel 5 oedd dylunio a gweithredu prosiect celf a chrefft yn ei weithle. Roedd o wedi cychwyn fel tasg i’r cymhwyster ond mae o nawr yn ymyrraeth barhaus yn ei wasanaeth, enghraifft o sut defnyddiodd o’i addysg i wella bywydau’r bobl mae’n gofalu am.
I William, dyma oedd pwrpas bod yn arweinydd gofal: defnyddio’i ddealltwriaeth i greu newid positif.
Graddio a Phennod Newydd
Roedd graddio William yn teimlo fel cyflawniad mawr. Roedd y siwrne yn un hir, heriol ar adegau, a llond twf, ond roedd cyrraedd y diwedd yn llond balchder, rhyddhad, a chyffro am be daw nesaf.
“Roedd o’n siwrne andros o hir, weithiau heb ddiwedd… ond dyma nawr y diwedd, ac dwi’n andros o hapus.”
Dyfodol gyda Phwrpas
Mae siwrne prentisiaeth William yn dangos y pŵer o ymrwymiad, dysgu strwythuredig, ag angerdd ar gyfer gofal. O weithiwr ofal Lefel 2 hyd at arweinydd Lefel 5, mae o wedi adeiladu gyrfa wrth gofio’i wreiddiau mewn tosturi, dealltwriaeth a datblygiad parhaus.
Mae ei neges at Itec yn syml ond yn llawn calon:
“Diolch yn fawr.”
Mae ei hanes hefyd yn dangos be gall prentisiaethau cynnig: cynnydd, hyder a llwybr at arweinyddiaeth mewn maes sy’n newid bywydau.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am bobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









