Tianna White
O Ddysgwr i Gynorthwyydd Addysg: Siwrne Tianna
O’r eiliad ymunodd Tianna White a’r rhaglen TSC+ gydag Itec Merthyr, roedd ei agwedd bositif a brwdfrydedd yn sefyll allan. Dros y ddau fis, gwelodd ei thiwtor dysgwr oedd wedi ymrwymo i ddatblygiad ei hunan ac yn awyddus i helpu eraill.
Roedd Tianna cynrychiolydd dysgwyr cyntaf y canolfan. Cynigodd i helpu ei chyd-ddisgyblion, yn enwedig y rhai oedd yn newydd i’r rhaglen. Wnaeth hi gyfrannu i amgylchedd croesawus a chefnogol y dosbarth.
Tyfodd ei hyder pob diwrnod, wnaeth y momentwm yma gwthio hi hyd yn oed yn bellach pan gychwynnodd ei lleoliad.
Mae Tianna wedi rhagori yn ei swydd, gan greu argraff wych ar ei chyflogwr, maen nhw eisiau cadw hi mor hir ac sy’n bosib.
Dywedodd Lucy Woodrow, Swyddog Cyflogaeth:
“Ar ôl dim ond bythefnos mae Tianna wedi bod yn anhygoel ac yn andros o hanfodol i’r tîm.”
Wrth fyfyrio ar ei lleoliad, rhannodd Tianna:
“Ers cychwyn fy siwrne gydag Itec mae fy hyder wedi tyfu llawer. Roedd hyn gyda help, cymorth ac anogaeth y tiwtoriaid. Rwyf nawr ar fy lleoliad yn gwneud y swydd rwyf wastad wedi breuddwydio am.”
Mae ei chynnydd o bod yn dysgwr i gynorthwyydd addysg yn dangos sut gall ymrwymiad a’r cefnogaeth cywir helpu rhywun i bod y fersiwn gorau o’i hunan.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









