Romie Lewis

O Ddysgwr i Broffesiynol Harddwch: Siwrne Romie Lewis gyda TSC+ ag Itec

Cefndir

Mae Romie Lewis wedi gwneud cynnydd rhagorol ers ymuno ar y rhaglen TSC+ gydag Itec. Adeiladodd ei hyder, sgiliau a phrofiad gwaith tra oedd hi’n gweithio tuag at yrfa yn y maes harddwch. O’r cychwyn, wnaeth Romie y mwyaf o bob cyfle oedd ar gael iddi hi. Cwblhaodd y Wobr Dinas & Urddau mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid QCF – Lefel 1 a’r Wobr Ragarweiniol Dinas & Urddau mewn Sgiliau Cyflogadwyedd Lefel 1. Rŵan mae hi’n mynd ymlaen at ei chymhwyster Lefel 1 harddwch, gan gryfhau ei sylfaen yn y maes.

Lleoliad Trawsnewidiol

Y peth wnaeth gwneud y gwahaniaeth i siwrne Romie oedd ei lleoliad gyda’r Sba Rose Retreat ym Merthyr. Yna roedd hi’n gallu defnyddio ei addysg yn ymarferol mewn amgylchedd proffesiynol. Cafodd y gefnogaeth a derbyniodd o Itec effaith mawr arni hi yn ystod yr adeg yma. Gan fyfyrio ar ei phrofiad, rhannodd Romie:

“Ar fy lleoliad, wnaeth Itec cynnig llawer o arweinaeth a chefnogaeth fel sicrhau bod gen i wisg gwaith broffesiynol. Wnaethon nhw helpu fi i dderbyn cymhwyster Gwasanaeth Cwsmeriaid yn ogystal a chymhwyster Harddwch Lefel 1. Maent hefyd wedi fy nghefnogi gan gadw mewn cysylltiad gyda fi a rhoi cefnogaeth pryd bynnag roeddwn i angen o.”

Nid yn unig wnaeth ei amser gyda’r sba cryfhau ei sgiliau ymarferol ond hefyd wnaeth hi ddatblygu ei hyder, agwedd proffesiynol, ag angerdd am y diwydiant. Canmolodd mentor Romie yn y sba James Jones ei ymrwymiad a chynnydd:

“Mae ‘di bod yn bleser gweithio gyda Romie. O’r cychwyn, dangosodd hi ymroddiad, brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu. Trwy dderbyn ei chymwysterau a’i lleoliad gyda’r sba mae hi wedi gwneud cynnydd ardderchog, ac wedi datblygu hyder ag agwedd proffesiynol. Does dim amheuaeth y bydd hi’n parhau i lwyddo yn ei gyrfa mewn harddwch.”

Hyfforddiant Pellach

Yn ogystal â’i lleoliad, mae Romie wedi gweithio’n galed i gwblhau nifer o gyrsiau ychwanegol i gefnogi ei sgiliau presennol. Mae hyn yn cynnwys defod grisial, defod glaw, tylino pen Indiaid a thriniaeth wyneb jâd. Yn ogystal â hyfforddiant ar lein Gaia, hyfforddiant triniaeth wyneb Caudalie, tylino creigiau poeth a thylino Swedeg.

Casgliad

Mae stori Romie yn dangos sut gall y cyfuniad cywir o hyfforddiant, cefnogaeth wedi’i theilwra a phrofiad gwaith o safon uchel creu cyfleoedd sy’n newid bywydau. Mae ei ymrwymiad ac agwedd bositif yn disgleirio ym mhopeth mae hi’n gwneud, sy’n gwneud hi’n ysbrydoliaeth i bobl ifanc eraill.

Rydym yn hynod o falch o lwyddiannau Romie hyd yn hyn. Edrychwn ymlaen at weld lle bydd ei thalent a phenderfyniaeth yn ei chymryd nesaf yn y maes harddwch.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau