Lily Stuart
Lily Stuart – Stori o Dwf, Benderfyniad a Llwyddiant
Cefndir
Ers ymuno Itec ar y rhaglen TSC+ ym mis Mehefin 2025, mae Lily Stuart wedi dangos ymrwymiad rhagorol i’w datblygiad personol a phroffesiynol. Ar ôl cyrraedd gydag angerdd am y diwydiant harddwch, dangosodd yn gyflym ei awydd i ddysg, datblygu sgiliau newydd a’i ymrwymiad i adeiladu gyrfa lwyddiannus.
Ar hyn o bryd mae Lily yn cwblhau ei lleoliad gyda Gwallt ag Ewinedd Alisha yn Nhre Harris, lle wnaeth hi flodeuo. Wynebir wynebu pob tasg gyda hyder, yn dysgu technegau newydd yn gyflym, ac yn gyson yn creu argraff dda ar ei chyflogwr gyda’i ymrwymiad ag agwedd proffesiynol. Caniatawyd ei agwedd bositif a’i awydd i ymgysylltu i hi ddatblygu sgiliau ymarferol bydd yn cefnogi ei nodau hirdymor yn y maes.
Wynebu Heriau
Ond mae ei thaith yn mynd tu hwnt i sgiliau’r gweithle. Pan ymunodd Lily’r rhaglen, wynebodd heriau gyda darllen ag ysgrifennu – heriau gallai wedi dal hi yn ôl. Yn lle, wnaeth hi wynebu nhw. Gyda chymorth staff a’i gwytnwch ei hunan, mae hi wedi datblygu sgiliau llythrennedd, codi ei hyder a derbyn nifer o gymwysterau gan gynnwys:
- Cyfathrebiad Sgiliau Hanfodol Cymru (Mynediad 3)
- Gwobrau Lefel Mynediad mewn Sgiliau Cyflogadwyedd
- Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cymhwyso Rhif (Mynediad 3)
- Gwobr Cyflwyniad mewn Sgiliau Cyflogadwyedd Lefel 1
Nid yn unig ydy’r llwyddiannau yma yn adlewyrchu ei chynnydd academaidd, ond hefyd y twf yn ei annibyniaeth fel dysgwr. Cymerir Lily cyfrifoldeb o’i datblygiad – gan ofyn cwestiynau, ymarfer y gyson, a defnyddio’i dealltwriaeth gyda hyder. Mae ei thrawsnewidiad yn enghraifft bwerus o sut gall awydd ynghyd a’r cymorth cywir arwain at botensial positif.
Casgliad
Mae effaith siwrne Lily yn glir. Derbyniodd profiad gwerthfawr ymarferol, cryfhaodd ei chyflogadwyedd, ac adeiladodd yr hyder oedd ei angen i gymryd y cam nesaf yn y maes gwallt ag harddwch. Mae ei thwf wedi ysbrydoli pawb mai wedi gweithio gyda.
Yn eiriau ei hunan:
“Ers cychwyn y rhaglen gydag Itec, dwi wedi dysgu llawer, datblygu sgiliau a thyfu fy hyder. Roedd y gefnogaeth gan y staff wedi fy helpu i wneud cynnydd go wir a derbyn pethau dwi’n falch o”.
– Lily Stuart
Stori Lily yw dathliad o gynnydd, gwytnwch ac uchelgais. Mae hi’n enghraifft ddisglair o be gall digwydd pan ddaw talent, gwaith caled a chefnogaeth werthfawr at ei gilydd. Rydym yn hynod o falch o bopeth mae hi wedi cyflawni.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









