Lily May Thomas
Dod drosodd rhwystrau dysgu gyda chymorth wedi’i theilwra: Siwrne Lily
Ymunodd Lily May Thomas ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ ar y strand cynnydd yn ein canolfan Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hyn yn syth ar ôl iddi hi gwblhau ei TGaU. Un o rwystrau cynnar i wynebu dysgu Lily oedd prosesu gwybodaeth.
Gweithiodd staff Itec yn agos gyda Lily. Defnyddion nhw gymorth wedi’i theilwra i roi’r sgiliau i wynebu’r rhwystrau dysgu iddi hi. Roedd rhein yn galluogi hi i adnabod geiriau allweddol a ffocysu ar syniadau hanfodol. Gyda chefnogaeth staff Itec, datblygodd Lily ei dealltwriaeth a hyder yn fawr. O ganlyniad, llwyddodd i basio’r Wobr Mynediad Dinas & Urddau Lefel 1 mewn Sgiliau Cyflogadwyedd a’r cymhwyster Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 1 gyda dyfarniad Dosbarth Cyntaf.
Cefnogodd staff Itec diddordeb Lily i drio nifer o feysydd a darganfod pa gyfeiriad oedd yn addas i’w ddiddordebau. Wnaeth y rhaglen hwyluso nifer o leoliadau, gan helpu Lily i gael profiadau arbennig. Roedd y lleoliadau yn cynnwys Cartref Nyrsio Tŷ Nant, Hwb Cymunedol MPS The Bridge, a’r adran weinyddol gydag Itec Sgiliau.
Dywedodd Lily:
“Rwyf yn mwynhau gweithio gyda phobl. Mae o wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu a fy hyder. Rwyf yn gwybod bod fy nghryfderau sef ymgysylltiad cymunedol a gwasanaeth cwsmer.”
Gadawodd gosodiadau’r lleoliad i Lily datblygu ei chryfderau ac i gael mwy o eglurdeb am ei dyfodol.
Nid yn unig ydy ei siwrne yn dangos ei ymrwymiad i ddysgu ond hefyd ei chryfder, hyder, a syniad gwell o ba gyfeiriad bydd hi’n dilyn ar gyfer ei dyfodol.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









