Lana Meeke

Siwrne o Dwf a Gwytnwch: Llwybr Lana Meeke gyda Datblygu Sgiliau

Pan ddechreuodd Lana Meeke ei siwrne ar strand Ymgysylltiad Twf Swyddi Cymru+, teimlodd yn ansicr am ei gyrfa. Roedd hyn oherwydd roedd hi’n gwybod nad oedd amgylchedd traddodiadol coleg yn addas i’w phryder. Ond, ers ymuno ag Itec Aberdâr, mae Lana wedi setlo’n andros o dda ac wedi dangos ymrwymiad cyson i ddysgu ac i’w datblygiad personol.

Mae hi wedi adeiladu perthnasoedd positif gyda chymdogion a staff, ac wedi gwneud ffrindiau newydd. Hefyd cymerodd hi rôl mentora cymdogion, roedd hyn yn naturiol iawn gan oedd hi wastad yn annog ac yn cefnogi gweddill ei grŵp.

Yn ystod ei amser gyda ni, cwblhaodd Lana ei chymhwyster AON Lefel Mynediad 3 Sgiliau Hanfodol Cymru, a’i chymhwyster Cyflogadwyedd Lefel Mynediad 3. Rŵan mae hi’n gweithio tuag at dderbyn cymhwyster Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2. Dangosir hyn ei chymhelliant i barhau i ddatblygu a herio ei hunan.

Hefyd mae Lana wedi dechrau lleoliad gydag ysgol gynradd leol. Yna mae hi’n datblygu ei sgiliau ymarferol, ei phroffesiynoldeb, a’i dealltwriaeth o weithio gyda phlant. Yn ogystal â hyn, bydd hi’n cwblhau ei chymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1. Bydd hyn yn cefnogi ei nod o ddilyn gyrfa yn y maes addysg.

Mae ei siwrne hyd yma yn dangos ei gwytnwch, ymrwymiad a’i gallu i wynebu heriau. Mae hi’n fodel rôl yn y canolfan ac mae hi’n parhau i wneud cynnydd ardderchog tuag at ei goliau personol a gyrfaol.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau