LA Training- Cymhwyster Lefel 1 Ffitrwydd a Gweithgarwch Corfforol
Cymhwyster Lefel 1 mewn Ffitrwydd a Gweithgarwch Corfforol
Cydweithio Llwyddiannus
Mae Itec yn falch o fod yn gweithio gyda LA Training Wnaethon nhw croesawu pedwar dysgwyr TSC+ i’r cymhwyster Lefel 1 Ffitrwydd a Gweithgarwch Corfforol yn ddiweddar. Mae’r cwrs wedi’i leoli yn y Fitness Quarter yn y Red Dragon Centre ac yn cynnwys chwe sesiwn. Mae’r sesiynau yn cyfuno dysgu yn y dosbarth gyda phrofiad ymarferol mewn lleoliad gym. Bydd pob dysgwr yn cael aelodaeth am ddim am gyfnod y cwrs i alluogi nhw i ymarfer eu sgiliau a chodi eu hyder wrth ddysgu.
Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn edrych ar strwythur a swyddogaeth y corff dynol a sut mae o’n ymateb i ymarfer corff. Maen nhw’n dysgu sut i ddilyn rhaglen ymarfer corff personol gan ddefnyddio egwyddorion cydnabyddedig ffitrwydd. Byddyn nhw’n cael eu cyflwyno i’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â gweithio fel hyfforddwr ffitrwydd. Hefyd mae’r cwrs yn rhoi dealltwriaeth well iddynt o’r diwydiant ffitrwydd ehangach a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Mae’na bwyslais ar ddiogelwch wrth arwain sesiynau ymarfer corff ac wrth ddatblygu agwedd cytbwys tuag at faeth a byw’n iach.
Effaith ein staff
Mae’r dysgwyr wedi cael eu cefnogi gan Domonic Ham, ymwelodd o â chanolfan Itec Caerdydd lle mae’r cwrs yn cael ei darparu. Roedd hyn i gyflwyno’r cyfle, ac mae o wedi arwain y grŵp drwy eu hyfforddiant ers hynny. Mae anogaeth ac arbenigedd Domonic wedi helpu’r dysgwyr i ymgysylltu’n llawn a’r cwrs, a deall sut mae’r wybodaeth newydd yn cysylltu gyda goliau gyrfa nhw. Mae’r pedwar dysgwyr yn anelu i gael swyddi yn y diwydiant ffitrwydd yn y dyfodol. Rhoddodd y profiad yma’r hyder, dealltwriaeth a’r sylfaen ymarferol sydd eu hangen arnynt i lwyddo.
Barn y dysgwyr
Mae sawl dysgwr wedi rhannu pa mor ddylanwadol mae’r cwrs wedi bod. Esboniodd Kimberly fod y cwrs wedi codi ei hyder ac wedi ehangu ei dealltwriaeth o ffitrwydd a lles. Disgrifiodd Shannon sut helpodd Itec hi i ddod o hyd i lwybr clir ar gyfer ei dyfodol. Hefyd wnaeth y cymorth helpu i leihau ei phryder ac agor y drws i brofiadau newydd. Dywedodd Oliver fod y cwrs wedi cryfhau ei gôl o fod yn hyfforddwr personol. Roedd y gefnogaeth gan Itec wedi galluogi o i ffeindio’r cyfleoedd sy’n cyfateb i’w goliau.
Disgrifiodd Domonic sut gymaint oedd o wedi mwynhau dysgu’r rhaglen i garfan Itec a sut oedd y dysgwyr i gyd wedi talu sylw trylwyr trwy gydol y cwrs. Gwelodd o newid positif yn eu sgiliau cyfathrebu, eu hyder a dealltwriaeth. Nawr mae o’n edrych ymlaen at weld eu datblygiad parhaus wrth iddynt symud ymlaen.
Sylfaen dyfodol llwyddiannus
Mae’r bartneriaeth yma gyda LA Training yn rhoi mwy na chymhwyster i’r dysgwyr. Mae’n cynnig profiad gwirioneddol o fewn amgylchedd gym proffesiynol, arweiniad gan hyfforddwr profiadol, a chyflwyniad gwerthfawr i’r diwydiant ffitrwydd. I’r dysgwyr yma, mae’n cynrychioli dechreuad ystyrlon i yrfaoedd nhw, ac yn siawns i adeiladu sylfaen llwybr maent yn gyffrous i ddilyn.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









