Kyan Smith

Effaith ar y Gymuned trwy Ymgysylltu a Chynnydd

Cefndir

Pan ymunodd Kyan Smith ag Itec ym mis Gorffennaf 2025 ar strand Ymgysylltu Twf Swyddi Cymru+, roedd o’n berson ifanc yn chwilio am gyfeiriad. Cafodd ei wahardd o’r ysgol yn 14 mlwydd oed, roedd ganddo fo hanes personol heriol. Cyrhaeddodd y pwynt lle nad oedd amgylcheddau traddodiadol addysg am weithio iddo fo. Roedd o angen dechrau newydd, dull cyfannol, a llwybr oedd yn adnabod ei gryfderau yn hytrach na’i heriau.

Amgylchedd Newydd

O’r ddechrau, roedd o’n glir bod Kyan yn ffynnu o brofiad ymarferol yn hytrach nag addysg yn y dosbarth. Daeth ei ddiddordeb mawr mewn garddwriaeth a thirlunio yn amlwg yn ystod ei asesiad cychwynnol. A bu tîm Itec yn dod o hyd i amgylchedd lle gallai ffynnu. Yn fis Awst 2025, roedd Kyan ar leoliad gydag Anturiaethau Organig Cwm Cynon. Mae’n fenter gymdeithasol wedi’i gosod ar safle 5 erw sy’n cynnwys afonydd, coetiroedd, perllannau, pwll, a chynefinoedd bywyd gwyllt moethus. Wnaeth y sefydliad cynnig dysgu cynhwysol, achrededig ynghyd â lleoliadau gwirfoddol, gweithgareddau cymunedol a chyfleoedd sy’n canolbwyntio ar les.

Cafodd y newid amgylchedd effaith yn syth bin. Ar ôl adeg o setlo, dechreuodd Kyan ffynnu, gan ddangos yn gyflym ei ymrwymiad, ddibynadwyedd, a theimlad o bwrpas. Oherwydd ei gynnydd aeth o ymlaen i’r strand Cynnydd. Yna parhaodd i dyfu ei hyder a’i sgiliau wrth weithio tuag at ei goliau hirdymor.

Ers ymuno ag Itec, mae Kyan wedi derbyn nifer o gymwysterau sy’n adlewyrchu ei waith caled a’i barodrwydd i wynebu heriau newydd. Mae hyn yn cynnwys Garddwriaeth, Coedwigaeth Gymunedol, a’r Cerdyn CSCS, gyda Chymorth Cyntaf Brys nesaf. Mae pob carreg filltir wedi ei symud yn agosach at gyflogadwyedd cynaliadwy yn y meysydd amgylcheddol a thir.

Camau Nesaf

Mae uchelgais Kyan yn parhau i dyfu. Ar ei ben-blwydd 18, mi fydd o’n cofrestru ar y cwrs Ticed Ynni Pobl. Cyfle a fydd, ar ôl ei gwblhau, yn sicrhau cyflogaeth sicr gyda’r Grid Cenedlaethol. Yn y cyfamser, mae Anturiaethau Organig Cwm Cynon yn cefnogi o’n bellach trwy sicrhau bod o’n haros ar y trywydd iawn. Maent hefyd yn sicrhau ei fod yn buddsoddi o’i brofiad gwaith.

Mae taith Kyan yn dyst i’r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw’r gefnogaeth, amgylchedd a’r cyfleoedd cywir at ei gilydd. Mae’n glod iddo ‘i hun, i Itec, ac i Anturiaethau Organig Cwm Cynon, gan ddangos gwytnwch, twf, a dyfodol addawol.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau