Kian Windsor
O Helynt i Hyder: Siwrne Kian
Ymunodd Kian â Thwf Swyddi Cymru gydag Itec. Ar ddechrau’r rhaglen, ymddangosodd yn rhwystredig ac yn bigog. Weithiau achosodd o wrthdaro oherwydd ei anhapusrwydd o fod yn y canolfan.
Ers hynny, mae cynnydd Kian wedi bod yn eithriadol. Gyda chymorth gan staff Itec, rŵan mae Kian yn ddysgwr hollol wahanol. Mae Kian wedi datblygu’n rhagorol yn academaidd ac yn bersonol. Mae’n ymroi’n llwyr i’w gwrs ac yn gyson yn trio ei orau o fewn canllawiau’r rhaglen. Chwaraeodd strwythur a chyfleodd a ddarparwyd gan y canolfan rhan allweddol, a rŵan mae Kian yn gweithio ar lefel uchel academaidd.
Sylwir staff Itec gwahaniaeth mawr yn y canolfan. Mae Kian yn barchus, gwrtais, gydag agwedd dawel yn y canolfan TSC+.
Myfyriodd un o’i diwtoriaid am ei siwrne:
“Ar lefel personol, rydw i wedi mwynhau ein trafodaethau am ffilmiau a gemau fideo. Mae’n hawdd anghofio ei fod yr un bachgen a chwrddais fisoedd yn ôl. Roedd cael gweld ei aeddfedrwydd, twf, ac ymrwymiad wedi fy ysbrydoli a wnaeth o atgoffa fi o pam yn union dwi’n caru’r hyn dwi’n gwneud.”
Mae trawsnewidiad positif Kian yn destament i’w wytnwch, ymrwymiad, a medru i ddatblygu i mewn i ddysgwr hyderus ac aeddfed.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









