Kafayat Busari X Mighty Health Care Ltd

O ddatblygu hyder i oresgyn rhwystrau iaith: Taith Kafayat

Mae’r Cefnogwr Gofal Kafayat Busari newydd gwblhau ei rhaglen brentisiaeth Iechyd a Gofal Chymdeithasol Lefel 2 (Oedolion) gyda Mighty Health Care Ltd.

Wrth ddechrau ei phrentisiaeth efo Itec Sgiliau, nod Kafayat oedd datblygu sgiliau cyfathrebu cryf. Wnaeth Kafayat straffaglu gyda’r Cymhwyster Sgiliau Hanfodol i gychwyn oherwydd nid yw Saesneg ei hiaith gyntaf.

Wnaeth Asesydd Itec Richard Wambua ysbrydoli Kafayat gan bod yn bositif a helpodd hi i dyfu ei sgiliau trwy sesiynau un-i-un tan oedd hi’n llwyddiannus yn ei gôl.

Dywedodd Richard, “Fel rhan o’r brentisiaeth roedd rhaid i Kafayat llwyddo i gwblhau L1 AON & COM (CSH). Fe wnes i ymgysylltu â hi’n bersonol ddiwedd 2025 i’w hannog a lleihau ei phryder. Er iddi methu’r modiwl cyfathrebu cwpl o weithiau, ni wnaeth hyn digalonni hi ac yn y pen draw cwblhaodd y ddau CSH yn llwyddiannus. Rydyn ni’n teimlo’n mor falch o ddatblygiad Kafayat o ran ei chyfathrebu a hyder yn gweithio. Bendigedig Kafayat, dymunaf y gorau i ti a dy ddyfodol.

Adlewyrchodd Kafayat ar y brentisiaeth gan deud “Rŵan dwi’n teimlo’n mor hyderus yn cyfathrebu efo fy nghydweithwyr a hyd yn oed efo unigolion dwi’n gofalu am. Dwi wedi magu’r sgiliau ieithyddol sydd eu hangen i wella fy mherfformiad yn y gwaith ac sydd wedi helpu fi i ddatblygu fy ngyrfa. Rŵan gallai darparu lefel uwch o ofal heb unrhyw rwystr iaith.

This is an image of a health care professional holding out there hands and holding someone elses hands

Barod i gweithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau