Kafayat Busari X Mighty Health Care Ltd

O Ddatblygu hyder i Oresgyn Rhwystrau Iaith: Siwrne Kafayat Busari

Mae’r Cefnogwr Gofal Kafayat Busari newydd gorffen ei phrentisiaeth. Roedd hyn yn un Iechyd a Gofal Chymdeithasol Lefel 2 (Oedolion) gyda Mighty Health Care Ltd.

Wrth ddechrau ei phrentisiaeth efo Itec Sgiliau, nod Kafayat oedd datblygu sgiliau siarad cryf. Wnaeth Kafayat stryglo gyda’r cymhwyster Sgiliau Hanfodol i gychwyn oherwydd nid yw Saesneg ei hiaith gyntaf.

Wnaeth yr asesydd Itec Richard Wambua codi calon Kafayat gan bod yn bositif. Fe helpodd hi i dyfu ei sgiliau trwy sesiynau un-i-un tan oedd hi’n llwyddo yn ei gôl.

Dywedodd Richard:

“Fel rhan o’r brentisiaeth roedd rhaid i Kafayat llwyddo i gwblhau L1 AON & COM (CSH). Fe wnes i gysylltu â hi’n bersonol ddiwedd 2025 i’w hannog a lleihau ei phryder. Er iddi methu’r darn cyfathrebu cwpl o weithiau, ni wnaeth hyn digalonni hi. Yn y pen draw cwblhaodd y ddau CSH yn llwyddiannus. Rydyn ni’n teimlo’n mor falch o dwf Kafayat o ran ei chyfathrebu a hyder yn gweithio. Bendigedig Kafayat, dymunaf y gorau i ti a dy ddyfodol.”

Adlewyrchodd Kafayat ar y brentisiaeth gan deud:

“Nawr dwi’n teimlo’n mor hyderus yn cyfathrebu efo fy nghydweithwyr a hyd yn oed efo unigolion dwi’n gofalu am. Dwi wedi magu’r sgiliau iaith sydd eu hangen i wella fy mherfformiad yn y gwaith. Maent hefyd wedi helpu fi i ddatblygu yn fy ngyrfa. Nawr gallai darparu lefel uwch o ofal heb unrhyw rwystr iaith.”

This is an image of a health care professional holding out there hands and holding someone elses hands

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am bobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau