Jordan Woodley 

Cryfhau Hyder gyda Howdens

Mae Jordan Woodley Prentis Gwasanaeth Cwsmer gyda Howdens yn rhannu sut wnaeth ei phrentisiaeth helpu hi i dyfu ei hyder, datblygu ei phrofiad ymarferol, a throi’n aelod hanfodol o’r tîm. 

Howdens ydy un o gwmnïau cegin fwyaf y DU, nhw ydy masnach cyflawni cegin rhif 1 y DU. 

Yn ei swydd gyda Howdens, mae Jordan yn chwarae rhan bwysig o wneud yn siŵr bod pob cyfathrebiad gyda chwsmer yn adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i ansawdd, dibynadwyedd a gwasanaeth. Mae ei gwaith yn cynnwys cefnogi cwsmeriaid, rheoli ymholiadau, a chadw safonau uchel ar draws y tîm wrth gyfrannu at awyrgylch positif. 

I adeiladu ar ei sgiliau cyfathrebu naturiol a derbyn adnabyddiaeth ffurfiol am ei waith, cofrestrodd Jordan ar Ddiploma BTEC Lefel 2 Pearson mewn Gwasanaeth Cwsmer gydag Itec. 

“Dechreuais yn y Brifysgol ond sylweddolais nad oedd o i fi. Roeddwn i angen dysgu a chael cymhwyster wrth weithio. Dwi wastad wedi cael diddordeb mewn gwerthu a gwasanaeth cwsmer, a pan ddarganfyddai’r brentisiaeth wnaeth o dicio’r blychau i gyd.” 

Roedd Jordan eisiau tyfu ei hyder a datblygu ymwybyddiaeth gryfach o beth sy’n gwneud gwasanaeth cwsmer ardderchog. Rhoddodd y brentisiaeth y strwythur i ddefnyddio ei syniadau yn ei swydd a’r gallu i weld sut oedd ei ymdrechion yn creu newid go iawn.  

 “Pan ddechreuais, roeddwn i’n gobeithio i ddatblygu fy mhrofiad ymarferol yn llawn. Roeddwn i eisiau gwella fy nealltwriaeth o’r cynnyrch fel y byddai’n gallu cefnogi cwsmeriaid yn hyderus.” 

Trwy’r rhaglen mae Jordan wedi datblygu sgiliau newydd gyfathrebu, wynebu rhwystrau a chadw agwedd proffesiynol a phositif. Dysgodd hi sut i fyfyrio ar ei pherfformiad, adnabod ei chryfderau, ac edrych am ffyrdd i wella ar gyfer ei chwsmeriaid a’i thîm. 

Roedd hyblygrwydd y brentisiaeth yn meddwl gallai Jordan astudio wrth gario allan ei chyfrifoldebau yn Howdens. Wnaeth defnyddio’r hun a ddysgwyd o’r rhaglen yn ei swydd helpu hi i dyfu ei hyder a bod yn fwy rhagweithiol wrth gefnogi cwsmeriaid a chydweithwyr. 

“Mae Howdens fel teulu bach. Mae’r staff wedi rhoi bopeth i fewn i sicrhau roeddwn i’n deall, a helpodd hwnna llawer wrth i mi ddod i arfer gyda fy swydd.” 

Fel unrhyw person yn cychwyn, wynebodd Jordan rhwystrau, ond wnaeth hi gweld hein fel cyfleoedd i dyfu. Daeth ei chymhelliant gan ei chydweithwyr a’i awydd i lwyddo. 

“Mae’ na wedi bod heriau, yn enwedig galw cwsmeriaid, ond dwi wedi caru pob eiliad. Mae’r tîm wedi bod yn hyfryd a chroesawus o’r cychwyn sydd wedi fy ysgogi.” 

Mae rheolwr Jordan, Paige wedi gweld cynnydd clir yn ei datblygiad ag agwedd ers ymuno a’r tîm. 

“Ers i Jordan ymuno ein tîm, mae ‘di bod yn grêt gweld pa mor gyflym mae hi’n addasu ac yn tyfu yn ei swydd. Mae hi wastad yn defnyddio ei menter ac yn ysgogi ei hunan i gwblhau ei thasgau dyddiol. Mae hi wedi cael effaith positif ar alwadau cwsmer ac mae ganddi hi agwedd bositif pob diwrnod.” 

Ers cychwyn ei phrentisiaeth, mae Jordan wedi datblygu hyder cryfach yn ei sgiliau cyfathrebu a datrys problemau. Mae hi’n falch o gefnogi cwsmeriaid gyda gofal ag agwedd proffesiynol, gan helpu ei thîm i ddarparu’r lefel uchel o wasanaeth adnabyddir Howdens am. 

Wrth edrych i’r dyfodol, mae Jordan yn gobeithio dal ati i  adeiladu ei sgiliau a datblygiad tu fewn i’r sefydliad, a defnyddio ei phrofiad i arwain pobl eraill a hyrwyddo gwasanaeth cwsmer ardderchog. 

“Dwi wedi cyffro i ddysgu a thyfu. Dwi wir eisiau datblygu gyda Howdens a defnyddio’r cyfle yma i adeiladu fy ngwybodaeth a phrofiad. Mae’r brentisiaeth fy ngalluogi i wneud yr hyn dwi eisiau gwneud, gyda’r cymorth dwi angen i wneud o.”  

 Pan ofynnwyd iddi hi am gyngor basau’n rhoi i rywun sy’n meddwl gwneud prentisiaeth, mae ei hateb yn syml:  

 “Ewch amdani”. 

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am bobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau