Ella Dunn
Gwynebu Heriau: Sut Wnaeth Cymorth Wedi’i Theilwra Grymuso Ella Dunn
Ymunodd Ella Dunn y rhaglen yn Awst 2025. Ar yr adeg, roedd ganddi hi lefelau uchel o bryder a wynebodd sawl her. Roedd hyn yn cynnwys teithio ar ben ei hunan ar y bws a mynd i wersi yn y dosbarth. Cafodd grwpiau mawr ac amgylcheddau swnllyd effaith mawr ar ei lles, a wnaeth o’n anodd iddi hi ymgysylltu’n llawn.
Dros y misoedd diwethaf, darparwn Ella gyda chymorth wedi’i theilwra i helpu hi i wneud cynnydd a chryfhau ei hyder. Mae hi wedi dechrau gweithio gydag ein cwnselydd, sydd wedi gwneud effaith positif ar ei datblygiad. Rŵan mae Ella yn mynd i ddyddiau lles da, rydym yn sicrhau bod ffrind gyda hi i helpu hi i deimlo’n dda ac yn gyfforddus.
Mae Ella wedi gwella’n rhagorol yn ystod ei sesiynau cyfweliad ffug. Nawr mae hi’n gallu cyfathrebu’n hyderus gyda staff dydy hi ddim yn nabod- rhywbeth oedd yn arfer sbadurno ei phryder. Mae ei gallu i gadw trafodaethau llawn yn mynd yn y sefyllfaoedd yma yn dangos y twf yn ei hunan hyder.
Rŵan mae Ella yn cymryd ei chamau cyntaf tuag at leoliad gydag ysgol gynradd. Bydd hi hefyd yn cwblhau ei chymwysterau Cyfathrebu a Rhif gyda Mick. Ei nod hirdymor ydy i fod yn athrawes, ac mae hi’n adeiladu’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen i gyrraedd hyn.
“Ers ymuno ag Itec, mae fy hyder wedi tyfu llawer. Mae’r staff wedi helpu fi i wynebu fy mhryder, ac dwi’n hynod o ddiolchgar. Dwi wedi cyffro i barhau i dyfu fy hyder hyd yn oed yn fwy, fel gallai bod yn barod ar gyfer fy lleoliad.” – Ella Dunn.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









