Bharath Mudundi @ Ashberry Healthcare
Datblygu sgiliau, hyder a gwytnwch: Siwrne Prentisiaeth Bharath
Dechrau gyda Phwrpas
Cyn ymuno ag Ashberry Healthcare fel Cynorthwyydd Iechyd Gofal, roedd Bharath Mududndi yn gwybod beth yn union oedd o eisiau: cymhwyster cydnabyddus, profiad ymarferol a’r hyder i ffynnu mewn amgylchedd gofal. Roedd ei nod yn glir, cyflawni ei CGC Gofal Iechyd a Chymdeithasol Lefel 2 ac adeiladu sylfaen am yrfa hir a gwerthfawr yn cefnogi pobl eraill.
O’r dechrau, roedd gan Bharath agwedd benderfynol am ei brentisiaeth. Roedd o eisiau dysgu, tyfu, a dod yn ofalwr iechyd tosturiol. Gosododd yr uchelgais hwnnw’r cywair ar gyfer popeth a ddilynodd.
Dysgu Trwy Brofiad
Wrth iddo weithio yn Nhŷ Nyrsio Blaenos, Ashberry Healthcare, wnaeth Barath ymrwymo ei hunan i ddydd i ddydd goflau am bobl yn gyntaf. Datblygodd o ddealltwriaeth gref o iechyd a diogelwch, cyfathrebu, a chefnogi unigolion gydag urddas a pharch.
Nid yn unig oedd ei brentisiaeth am gwblhau tasgau, ond roedd o hefyd am ddatblygu hyder yn ei swydd. Cryfhaodd Bharath ei sgiliau ymarferol a rhyngbersonol. O gadw cofnodion a gwaith tîm i hyrwyddo annibyniaeth am y bobl mae’n gofalu am.
Gan fyfyrio ar ei siwrne, dywedodd:
“Mae cwblhau fy CGC Gofal Iechyd a Chymdeithasol wedi tyfu fy hyder, gwella fy sgiliau, a fy helpu i ddarparu gofal gwell i’r bobl dwi’n edrych ar eu hôl pob diwrnod.”
Gwynebu Heriau
Er na wynebodd Bharath unrhyw rwystrau personol, nid oedd ei siwrne heb heriau. Ar ôl cwblhau tri allan o bedwar elfen o fframwaith y brentisiaeth, wnaeth o straffaglu gyda’r asesiad olaf CRAIDD, gan ei methu pum waith.
Gallai hyn wedi bod yn bryd iddo gamu’n ôl ond yn lle hynny, daeth yn bryd iddo gamu ymlaen.
Wnaeth ei asesydd Kyley Daniels cydnabod ei rwystredigaeth a’i botensial. Gweithion nhw’n agos gyda’i gilydd i ddod o hyd i achos y broblem: iaith a therminoleg a defnyddwyr yn yr asesiad MCQ. Gyda’i gilydd, archwilion nhw i strategaethau newydd, newidion nhw ddulliau dysgu ac adeiladon nhw ei hyder i fyny.
Dywedodd Kyley:
“Er ei rwystredigaeth yn y cychwyn, dangosodd Bharath ymrwymiad i gwblhau’r CRAIDD. Treulion ni amser ychwanegol yn archwilio i ddulliau gwahanol i helpu o ddeall iaith a therminoleg yr asesiad. Bydd ei ddatblygiad yn cael effaith cadarnhaol arno fo wrth iddo barhau yn ei swydd a’i gyrfa yn y dyfodol.”
Adiodd Kyley:
“Mae Bharath yn headdu bod yn falch o’i hunan. Mae ei siwrne yn dangos pa mor bwysig ydy o i ddarparu cefnogaeth cyson ag addasu dulliau fel nad yw dysgwyr yn cael eu anfantais.”
Tyfu Hyder
Wnaeth y brentisiaeth trawsnewid gwaith dydd i ddydd Bharath. Rŵan mae’n teimlo’n hyderus yn ei gyfrifoldebau, yn alluog o ddarparu gofal o ansawdd uchel, ag yn fwy ymwybodol o’r safonau proffesiynol a ddisgwylir yn y sector.
Rŵan mae’n mynd i’r afael â’i rôl yn hyderus, yn eglur, a gyda dealltwriaeth ddyfnach o sut i gefnogi unigolion sy’n byw gydag anghenion cymhleth.
Edrych i’r Dyfodol
Roedd siwrne Bharath wedi cychwyn gyda’i Lefel 2. Mae o’n cynllunio i barhau i adeiladu ar ei brofiad, cymryd mwy o gyfrifoldebau, a datblygu ei sgiliau ymarferol. Rŵan mae ei ffocws ar fod yn fwy effeithiol yn ei swydd ac i ddarparu gofal rhagorol i’r bobl mae’n gofalu am.
Barod i weithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am bobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.









