ITEC SGILIAU A CHYFLOGAETH

Prentisiaethau yng Nghymru

Rydym yn darparu cymwysterau sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion cyflogwyr a’r gweithlu.

 

Dros y 40 mlynedd diwethaf, rydym wedi datblygu ystod o ddulliau arloesol ar gyfer cyflwyno cymwysterau, gan ddefnyddio’r technolegau diweddaraf ac adnoddau ar-lein i wella’r profiad dysgu a diwallu anghenion y cyflogwr a’r gweithiwr cyflogedig.

Rydym i gyd yn gwybod bod Prentisiaethau’n gwneud synnwyr, ond oeddech chi’n gwybod bod y manteision maen nhw’n cynnig i’ch busnes yn enfawr.

Gwella perfformiad eich busnes

Mae prentisiaethau’n sicrhau enillion gwirioneddol i berfformiad eich busnes, gan eich helpu i wella cynhyrchiant a bod yn fwy cystadleuol. Gall prentisiaethau hefyd bod yn gost fwy effeithiol na chyflogi staff medrus, gan arwain at gostau hyfforddi a recriwtio is yn gyffredinol.

Llenwi eich bylchau sgiliau

Mae prentisiaethau’n darparu sgiliau sydd wedi’u cynllunio o amgylch eich anghenion busnes, gan ddarparu’r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol. Maent hefyd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i gadw i fyny â’r dechnoleg a’r arferion gwaith diweddaraf yn eich sector.

Ysgogi eich gweithlu

Mae gweithwyr yn aml yn frwdfrydig, awyddus, hyblyg, ac yn ffyddlon i’r cwmni sy’n buddsoddi ynddynt. Mae darparu cyfleoedd hyfforddi yn rhoi hwb sylweddol i gadw gweithwyr trwy wella eu sgiliau, eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i’r sefydliad.

Prentisiaethau o Itec

Gweinyddiaeth Busnes

Yn cwmpasu’r sgiliau craidd sydd eu hangen megis Cyfathrebu, Rheoli Gwybodaeth, a Chynhyrchu Dogfennau Busnes.

Gofal Plant, Chwarae a Datblygiad Dysgu

Wedi’i gynllunio i gefnogi’r rhai sy’n gweithio gyda phlant ac yn gofalu amdanynt fel gweithwyr yn y sector gofal plant neu feithrin.

Gwasanaeth Cwsmer

Gellir teilwra’r rhaglen hon i unrhyw rôl sy’n ymwneud â chwsmeriaid ac mae’n cwmpasu’r sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

O helpu pobl ag angen penodol i ddarparu cymorth hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

p

Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

Delfrydol os ydg eich rôl yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad yn uniongyrchol i gleientiaid, adrodd i reolwyr llinell yn ogystal â gwasanaethau cysylltiedig.

Rheolaeth

Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n barod i gamu i rolau rheoli, mae ein cymwysterau yn eich arfogi â sgiliau rheoli hanfodol i arwain a chefnogi timau mewn unrhyw sector yn effeithiol. O Lefel 3 rheoli tîm i Lefel 5 rheolaeth strategol.

Rheolaeth Prosiect

Wedi’i deilwra ar gyfer rheolwyr prosiect sy’n symud i rôl rheoli canolog ac yn dal i fod yn gyfrifol am brosesau gweithredol.

Arwain Tîm

Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n barod i gamu i rolau rheoli. Mae’n eich arfogi â sgiliau rheoli ac arwain hanfodol i arwain a chefnogi timau mewn unrhyw sector yn effeithiol.

Warws

Wedi’i gynllunio i gefnogi’r rhai sy’n ymwneud â gweithrediadau dosbarthu, delio â thrin a storio nwyddau.

FAQs am Ymgeiswyr

FAQs am Cyflogwyr

Faint mae prentisiaeth yn Costio?

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r holl gostau cofrestru, dosbarthiad ac ardystio o fewn y fframwaith prentisiaeth.

Os mae arholiadau yn rhan o’r cwrs, efallai bydd cyfyngiad ar nifer yr arholiadau ailsefyll y gellir eu hariannu, a bydd hyn yn amrywio ar draws y gwahanol lwybrau a lefelau prentisiaeth. 

Pwy sy'n gymwys?

Mae prentisiaethau yn agored i bawb, er bod gan bob cymhwyster feini prawf cymhwysedd penodol. Mae cymhwyster yn dibynnu ar y lefel, y math o brentisiaeth a bod yr unigolyn yn bodloni’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol ar gyfer eu maes dewisol.

I dderbyn cymhwyster prentisiaeth, bydd rhaid i’r ymgeisydd bod yn gweithio yn yr un sector. Ar gyfer rhai lefelau a sectorau bydd hyd eich cyflogaeth yn rhan o feini prawf cymhwysedd. Mae ein tîm gwerthu yn hapus i siarad efo chi am eich opsiynau.

Cysylltwch gydag ein Tîm Gwerthu.

Pa mor hir mae prentisiaeth yn ei gymryd?

Yn dibynnu ar y sector a rôl y swydd, mae prentisiaeth fel arfer yn cymryd 12 i 18 mis i’w chwblhau.

Faint o amser mae'n ei olygu gan yr unigolyn?

Mae oriau dysgu yn amrywio, ond mae pob rhaglen yn cynnwys cymysgedd o gyfleoedd dysgu yn y gwaith, ar-lein, ac mewn gweithdai.

Allwch chi hyfforddi fy staff presennol?

Gallwn, mae’r fframwaith wedi’i adeiladu ar gyfer gweithwyr newydd a phresennol ac yn cael ei ariannu’n llawn ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Sut bydd hyfforddiant staff yn diwallu fy anghenion busnes?

Byddwn yn datblygu cynnig hyfforddi wedi’i deilwra ar gyfer pob cyflogwr fel ei fod yn bodloni amcanion eich busnes. Ein nod yw gwneud y broses mor ddi-dor â phosibl drwy gael gwared ar y cymhlethdod boed hyfforddi eich staff presennol neu gyflogi prentis newydd.

Faint o gyfranogiad sydd ei angen gennyf fi, y cyflogwr?

Trwy gydol y cymhwyster, bydd Itec yn gweithio mewn partneriaeth â chi i sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau rydych chi eu heisiau i’ch busnes.

Bydd aelod o dîm hyfforddi Itec yn ymweld â’ch safle o leiaf unwaith bob 60 diwrnod i werthuso’r dysgwr yn y swydd a rhoi adborth i chi. Bydd gofyn i chi gynnig rhywfaint o gefnogaeth a mewnbwn tystiolaeth bosibl i ffeil yr unigolyn.

Ein Cleientiaid Prentisiaeth