Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad
Mae’r brentisiaeth hon yn ddelfrydol os ydy eich rôl yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad yn uniongyrchol i gleientiaid neu wasanaethau cysylltiedig. Gallwch hefyd oruchwylio a chefnogi aelodau staff eraill.
Trosolwg o’r cwrs
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sylfaenol sydd eu hangen ar gyflogwyr mewn nifer eang o rolau lle mae gwybodaeth, cyngor neu arweiniad yn cael eu darparu.
Ieithoedd
Saesneg
Cymraeg
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau a’r ddealltwriaeth sylfaenol sydd eu hangen ar gyflogwyr mewn nifer eang o rolau lle mae gwybodaeth, cyngor neu arweiniad yn cael eu darparu.
Ar gyfer pwy?
Y rhai y mae eu rôl yn cynnwys rhoi cyngor ac arweiniad yn uniongyrchol i eraill.
Mae’r meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.
Lefelau
Mae’r brentisiaeth hon ar Lefel 3 a 4.
Elfennau’r Rhaglen
Diploma Lefel 3 neu 4 mewn Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad.
Sgiliau Hanfodol Cymru.
Pynciau a Drafodir
Rheoli llwyth achosion personol.
Rheoli datblygiad proffesiynol eich hun o fewn sefydliad.
Cefnogi cleientiaid i ddefnyddio’r gwasanaeth cyngor ac arweiniad.
Sefydlu cyfathrebu gyda chleientiaid.
Arfer proffesiynol a gofynion deddfwriaethol ar gyfer cyngor, arweiniad a gwasanaethau cysylltiedig â chyflogaeth yng Nghymru.
Beth nesaf?
Gall ein Tîm Datblygu Busnes eich arwain drwy’r camau nesaf.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.
Ein Clientiaid Prentisiaethau
















