Yma yn Itec, rydyn ni yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bob dysgwr y cyfle i ddisgleirio beth bynnag eu cefndir. Mae twf EP a JL, dau gyfrannwr ymrwymedig ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+, yn amlygu effaith cymorth bersonol ac yn dangos cryfder ein partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro. Mae llwyddiant nhw yn dangos beth sy’n bosib pan fydd darpariaeth wedi ei theilwra a chydweithio ystyrlon gan gyflogwyr yn dod at ei gilydd.

Mae gan EP a JL anghenion dysgu ychwanegol lefel uchel, ac o’r dechrau wnaeth ein tîm gweithio’n agos gyda nhw a’u teuluoedd i adeiladu amgylchedd dysgu oedd yn teimlo’n hygyrch, diogel, ac yn wirioneddol gefnogol. Roedd hyn yn cynnwys addasu dulliau addysg, cynnig tiwtora Sgiliau Hanfodol 1:1, ariannu trafnidiaeth, cynnig sesiynau llesiant, a sicrhau trefniadau mynediad addas ar gyfer pob asesiad. I leihau rhwystrau a sicrhau profiad cyson, wnaeth ein staff cynnal asesiadau yn berson yn ystod eu profiad GIG, roedd hyn yn elfen allweddol i helpu’r ddau unigolyn teimlo’n hyderus ac yn fedrus i weithio mewn amgylchedd gweithle go iawn.

Mae dyfalbarhad EP wedi arwain at sawl cyrhaeddiad nodedig, gan gynnwys cymhwyster Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu, yn ogystal â dyfarniad Lefel 1 Defnyddiwr TG. Rŵan mae hi’n gweithio tuag at Lefel 2 Cefnogi Iechyd a Lles, ac mae hi’n meithrin sgiliau sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol a rolau’r GIG. Mae JL hefyd wedi rhagori, gan sicrhau cymwysterau Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu wrth weithio tuag at Lefel 1 Llythrennedd Digidol a Lefel 1 Cefnogi Iechyd a Lles. Nid yn unig oes ganddyn nhw gymwysterau academig, maen nhw hefyd wedi cymryd camau tuag at annibyniaeth, hunan hyder, a chyflogadwyedd hirdymor.

Mae eu teuluoedd wedi teimlo effaith positif y cymorth yma. Dywedodd un rhiant: “Dwi’n eich canmol i unrhyw un bydd yn gwrando! Mae Itec wedi bod yn ardderchog i EP.” Mae adborth fel hyn yn pwysleisio’r gwahaniaeth gallai darpariaeth wedi’i theilwra gwneud, nid yn unig i ddysgwyr ond hefyd i’r rhai sy’n cefnogi nhw.

Mae ein partneriaeth gyda BIP Caerdydd a’r Fro wedi chwarae rhan drawsnewidiol hefyd. Cafodd y ddau ddysgwr profiad gwaith oedd yn cyd-fynd gyda chryfderau nhw, EP gyda gweinyddu, a JL gyda chofnodion a ffeilio. Rhoddodd yr amgylcheddau hyn strwythur arferol, cydweithwyr cefnogol, a thasgau oedd yn caniatáu nhw i ddisgleirio. Mae ymrwymiad BIP wedi sicrhau bod dysgwyr yn teimlo wedi ei chroeso, wedi ei gwerthfawrogi, ac yn fedrus i lwyddo o’r diwrnod cyntaf.

Adlewyrchodd AMG, Rheolwr Gwasanaethau Profiad wedi’u Cefnogi ar y bartneriaeth: “Mae’r trawsnewidiad o brosiect CHWILIO i Itec wedi bod yn llyfn ac yn syml, mae’r gefnogaeth a darparwyd gan staff Itec wedi bod yn arbennig.”

 

Adiodd NP, Rheolwr Gweithle a Recriwtio:

“Mae ein partneriaeth gydag Itec a Phrosiect Chwilio yn cynnig llwybr di-dor at gyflogaeth ystyrlon i bobl ifanc gydag ADY, gan ddangos gwir effaith ein hagwedd cydweithredol”

Gyda’i gilydd, mae’r rhwydwaith cefnogol yma wedi creu llwybr cryf i mewn i’r GIG. O ganlyniad mae’r ddau ddysgwr wedi cael profiad gwaith ymarferol, wedi derbyn cymwysterau, codi hyder, a chymryd camau mawr tuag at gyflogaeth barhaus o fewn sectorau maen nhw’n angerddol am.

Mae straeon EP a JL yn dangos pa mor bell gallai pobl ifanc gydag ADY mynd pan mae ganddyn nhw y cyfleoedd cywir, y canllawiau cywir, a’r amgylchedd cywir i dyfu. Yma yn Itec, rydym yn mor falch o lwyddiannau nhw, ac edrychwn ymlaen yn fawr i weld beth sydd nesaf iddyn nhw.

 

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

The Logo in white for Itec Skills and Employment. It has the 'skills and employment' on the right hand side.

Prentisiaethau a Twf Swyddi Cymru+ dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Prentisiaethau yn Lloegr dan arweiniad yr Adran Addysg.