Partneriaith Itec gyda Pharc Margam i Grymuso Ieuenctid

Mae rhaglen Twf Swyddi Cymru+ yn cael effaith sylweddol drwy roi cyfle i bobl ifanc gael profiad gwaith gwerthfawr a datblygu sgiliau newydd trwy leoliadau anhygoel. Mae’r fenter hon wedi’i chynllunio i helpu’r rhai sy’n canfod bod amgylcheddau coleg traddodiadol yn anaddas i’w hanghenion. Maent yn cynnig rolau amser llawn iddynt lle gallant ymgolli ym mhob agwedd ar fywyd gwaith bob dydd.
Rydym yn wrth ein bodd i gydweithio â Pharc Margam, sydd wedi agor ei ddrysau i dri o’n dysgwyr eithriadol. Maen nhw wedi cynnig lleoliadau profiad gwaith hynod ddiddorol mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth. Mae’r dysgwyr Isaac Miller, Coby Graham, ac Ethan King, wedi mynegi awydd cryf i gael profiad ymarferol ac adeiladu ar eu gwybodaeth flaenorol. Yn y daith hon mae Parc Margam wedi bod yn bartner delfrydol.

Cwrdd â’n Dysgwyr
Isaac Miller (Canolfan Castell-nedd) – Amaethyddiaeth

Darganfyddod Isaac ei angerdd o amaethyddiaeth o ofalu am anifeiliaid a deall eu hymddygiad. “Rwy’n mwynhau gofalu am yr anifeiliaid.  Trwy gadw’r anifeiliaid yn ddiogel, yn lân, ac wedi’i bwydo rwy’n helpu i gynnal a chadw’r parc. Rwyf hefyd wedi cynorthwyo i gynnal a chadw trên y parc. Mae hyn trwy glirio a chynnal y traciau cyn i’r cyhoedd gyrraedd a dysgu sut i fugeilio’r gwartheg” meddai Isaac. Roddwyd ei rôl ym Mharc Margam dealltwriaeth gynhwysfawr iddo o dasgau amaethyddol dyddiol a gofal anifeiliaid.

Ethan King (Pen-y-bont ar Ogwr) – Amaethyddiaeth

Gofalir Ethan am anifeiliaid a pharatoir eu bwyd. Wrth wylio ymwelwyr gyda’r anifeiliaid mae’n teimlo llawenydd. Pob amser mae’n barod i ateb eu cwestiynau. “Rwyf wedi cymryd rhan mewn siarad cyhoeddus, lle cynhaliais sgwrs am ein ceirw i gynulleidfa. Roedd hwn yn gyfrifoldeb mawr a fwynheais yn fawr. Mae staff Parc Margam yn groesawgar, ac mae’r profiad yn amhrisiadwy,” meddai Ethan. Nid yn unig ydy’r profiad wedi gwella ei sgiliau amaethyddol ond hefyd wedi rhoi hwb i’w hyder mewn siarad cyhoeddus.

Coby Graham (Pen-y-bont ar Ogwr) – Garddwriaeth

Datblygodd Coby diddordeb mawr yn garddio, gan ddysgu am wahanol fathau o flodau, eu tymhorau plannu, a chynnal a chadw gerddi’r Castell. “Dysgais am wahanol fathau o flodau a phryd i’w plannu. Torrais cloddiau a gwelyau i helpu i gadw gerddi’r Castell mewn cyflwr gwych. Nid yw’n teimlo fel gwaith oherwydd rwy’n mwynhau dysgu am bethau newydd,” meddai Coby. Mae ei frwdfrydedd dros arddwriaeth yn amlwg wrth iddo gyfrannu at gynnal harddwch Parc Margam.

Rôl Ein Tîm:

Cefnogir llwyddiant gan ein Swyddogion Cyflogadwyedd ymroddedig. Mae rhein yn cynnwys Gareth Williams, Hannah Taylor, a’n Hyfforddwyr Dysgwyr Angela Price a Stephanie Jones. Mae eu harweiniad a’u cefnogaeth wedi bod yn hollbwysig wrth helpu ein dysgwyr gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddarperir gan TSC+.

Ymdrech Cymunedol:

Mae’r Rheolwr Gweithrediadau Gary Davies yn enghraifft o ymrwymiad Parc Margam i gefnogi oedolion ifanc. “Mae’n gyfle gwych i’r dysgwyr brofi’r gwaith sy’n mynd i mewn i gynnal a chadw’r parc. A gweld sut mae gwahanol adegau o’r flwyddyn yn dod â datblygiadau newydd” meddai Gary.

Canmolir staff y parc gwaith caled ac ymroddiad ein dysgwyr.

Dywedodd Liam, y Rheolwr Amaethyddiaeth, “Mae’n bleser cael Isaac ac Ethan, maen nhw’n gweithio’n galed iawn i helpu ni gyda’n dyletswyddau.” Ychwanega Ryan Morgan, “Pan oeddwn i’n 16, cymerais ran mewn rhaglen debyg. Dwi’n gwybod yn uniongyrchol beth yw manteision rhoi cynnig ar wahanol ddiwydiannau i weld pa un sydd fwyaf addas i chi. Rwy’n meddwl bod TSC+ yn opsiwn gwych i ddysgwyr sy’n ansicr o ba lwybr i’w gymryd. Mae’n galluogi pobl i nodi eu cryfderau ar gyfer boddhad swydd.”

Edrych Ymlaen:

Mae Parc Margam yn cynnig ystod eang o rolau, ac edrychwn ymlaen at barhau â’n cydweithrediad i ddarparu opsiynau lleoliad amrywiol i’n dysgwyr. Nid yn unig ydy’r bartneriaeth hon yn helpu ein dysgwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol ond hefyd yn eu galluogi i archwilio gwahanol lwybrau gyrfa.

Mae rhaglen TSC+, mewn partneriaeth â Pharc Margam, yn profi i fod yn adnodd amhrisiadwy i bobl ifanc sydd am gael profiad gwaith a datblygu sgiliau newydd. Trwy brofiad ymarferol a chefnogaeth gymunedol, mae ein dysgwyr ymhell ar eu ffordd i yrfaoedd llwyddiannus a boddhaus.

 

This is an image of Itec learners at Margam Park

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau