Partneriaeth JGW+ Itec gyda The JJ Effect.org

Ysgrifennir gan Rheolwr Gwethrediadau, Adele Hughes

Yn Itec, rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfleoedd gorau i’n dysgwyr dyfu a llwyddo. Fel rhan o’n rhaglen JGW+, rydym yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth gyffrous gyda The JJ Effect.org. Mae’n sefydliad enwog sy’n adnabyddus am ei sesiynau hyfforddi effeithiol.

Am y Bartneriaeth

Mae’r cydweithrediad rhwng rhaglen JGW+ Itec a The JJ Effect.org wedi’i gynllunio i ddod â sesiynau siardwr addysgu trawiadol ond hygyrch i’n dysgwyr. Mae’r JJ Effect.org yn enwog am ei siaradwr deinamig sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae hyn yn cynnwys droseddau cyllyll, llinellau sirol, meithrin perthynas amhriodol, camfanteisio troseddol, ymhlith eraill.

Beth Gall Dysgwyr Ddisgwyl

Bydd dysgwyr yn cael y cyfle unigryw i fynychu sesiynau dan arweiniad gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael profiadau go wir. Mae’r siaradwyr yn cael eu dewis yn ofalus i ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr a gwybodaeth o’r byd go iawn a all wella’r profiad dysgu yn sylweddol.

Dyma beth gall dysgwyr edrych ymlaen ato:

Cyflwyniadau gonest trawiadol, mae eu gwaith wedi ei brofi i fod yn “unigryw” ac yn aros gyda phobl ifanc am hydoedd ar ôl iddynt gwrdd â nhw. “JJ EFFECT” yw’r effaith bythgofiadwy ar bawb y maent yn cwrdd â.

Manteision Hyfforddiant Siaradwyr Gwadd Profiad Dysgu Gwell:

Mae clywed yn uniongyrchol gan y siaradwyr yn cyfoethogi’r profiad addysgol, gan roi safbwyntiau i ddysgwyr sy’n mynd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Sesiynau i ddod

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi amserlen y sesiynau siaradwyr, a fydd yn cael eu cynnal yng nghanolfannau Itec, ym mis Gorffennaf. Cadwch olwg ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan am ddiweddariadau.

Yn Itec, rydym yn credu yng ngrym cydweithio ac effaith modelau rôl cadarnhaol. Mae ein partneriaeth gyda The JJ Effect.org yn dyst i’n hymrwymiad i ddarparu addysg gyfannol o ansawdd uchel sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer y dyfodol.

Gyda’n gilydd, gadewch i ni rymuso ein dysgwyr i gyflawni mawredd!

 

This is an image of the indivduals that are with the JJ Effect.og

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau