Adeiladu Gyrfaoedd Gyda’n Gilydd: Itec a Quad Bikes Wales
Yn Itec, rydym yn angerddol am rymuso pobl ifanc i gychwyn ar deithiau gyrfa boddhaus. Trwy ein cydweithrediad â chyflogwyr lleol, rydym yn darparu cyfleoedd amhrisiadwy i ddysgwyr gael profiad ymarferol a sicrhau cyflogaeth ystyrlon. Mae ein rhaglen llwyddianus Twf Swyddi Cymru+ wedi agor drysau i bobl ifanc ledled De Cymru.
Un o’n partneriaethau nodedig ydy gyda Quad Bikes Wales ym Mhontardawe, sy’n cael ei redeg gan Gareth a Victoria. Mae eu hymrwymiad i fenter TSC+ a chefnogaeth i’n dysgwyr wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Dros y ddau fis diwethaf, mae Quad Bikes Wales wedi croesawu pum dysgwr brwdfrydig o’n Canolfan yng Nghastell-nedd. Roedden nhw’n cynnig profiad ymarferol iddynt mewn rholiau amrywiol:
- Nathanial Kayne-Phillips – Gweinyddol
- Megan Gibson – Warws
- Berian Owen – Gweinydd iard
- Joseph Isaac – Warws
- Jordan Evan – Gwasanaethau Cwsmeriaid TG
Dysgodd Gareth a Victoria am y rhaglen TSC+ trwy gyflogwr lleol arall a oedd wedi cyflogi un o’n dysgwyr yn llwyddiannus. Roedd y straeon am lwyddiant ag effaith gadarnhaol wedi ysgogi nhw i gymryd rhan. Ers hynny maent wedi dod yn hyrwyddwyr y fenter.
Chwaraeir ein tîm ymroddedig yn Itec rhan hanfodol wrth gefnogi’r lleoliadau hyn. Mae’r hyfforddwyr dysgwyr Bethan Williams a Ciara Durbin, ynghyd â’r swyddog cyflogadwyedd Gareth Williams, wedi gweithio’n ddiflinedig i feithrin y bartneriaeth hon. Mae Gareth Williams, a gychwynnodd y cydweithio, yn parhau i gryfhau’r berthynas gyda chefnogaeth amhrisiadwy’r swyddog cyflogadwyedd Hannah Walker.
Trwy bartneriaethau fel hyn gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion ifanc. Gan helpu nhw i adeiladu dyfodol cadarnhaol a llewyrchus. Yn Itec, rydym wedi ymrwymo i feithrin y cysylltiadau hyn a darparu’r cymorth sydd ei angen er mwyn i’n dysgwyr ffynnu.
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau i Bawb
Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.














