Yusuf Ali

O Ddysgwr Distaw i Unigolyn Hyderus: Stori Yusuf

Diffyg Hyder

Ymunodd Ysuf Ali a’r rhaglen Twf Swyddi Cymru gydag Itec fel dysgwr distaw. Ar y dechrau roedd o’n ffeindio fo’n anodd cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp gyda’i gyd-ddisgyblion. Yn aml ffeindiodd o’n anodd canolbwyntio ac yn her i ffocysu am adeg hir. Ar gychwyn ei daith roedd o’n ansicr am ei ddyfodol a doedd o ddim yn hyderus yn ei alluoedd.

Siwrne Trawsnewidiol

Yn ystod ei amser gydag Itec, wnaeth Yusuf cynnydd rhagorol yn academaidd ac yn bersonol. Wrth iddo setlo mewn i’r amgylchedd dysgu, adeiladodd ei hyder yn raddol. Roedd o’n fwy a mwy cyfforddus yn ymgysylltu gyda gweithgareddau’r dosbarth. Wnaeth ei allu i ganolbwyntio gwella ac roedd o’n gallu cymryd rhan am amser hirach. Cafodd hyn effaith positif ar ei ddatblygiad a’i gynnydd yn ei wersi.

Tyfodd ei hyder llawer. Ond hefyd daeth o’n ddysgwr ymroddedig, ac yn berson cefnogol a chalonogol i’w ffrindiau a’r bobl o’i gwmpas. Datblygodd sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu cryfach a chroesawodd cyfleoedd newydd. Tyfodd ei annibyniaeth llawer ac roedd o’n benderfynol i lwyddo.

Cyflawniadau Rhagorol

Un o gyflawniadau allweddol Yusuf oedd derbyn gwobr efydd o WorldSkills DU. Mae hyn yn garreg filltir sy’n dangos ei ymrwymiad a’i dalent. Ar ôl hwnna symudodd ymlaen i leoliad gyda Phafiliwn Penarth lle derbyniodd profiad gweithle gwerthfawr. Ei gyfrifoldebau oedd defnyddio’r system bwcio, trefnu digwyddiadau a chroesawu cwsmeriaid. Mae’r swydd yma wedi galluogi o i ddatblygu sgiliau ymarferol a thyfu yn broffesiynol. Adeiladodd ei hyder hefyd wrth weithio mewn amgylchedd gweithle llythrennol.

Datblygu a dyfalbarhad yw stori siwrne Yusuf. Wnaeth o gynnydd rhagorol sy’n adlewyrchu ei ymrwymiad a’i agwedd cadarnhaol at ddysgu. Nawr mae o’n berson ifanc galluog, hyderus a llawn cymhelliant sy’n barod i’w gam nesaf.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau