Tayana Martelette X Itec
Gweithiwr Ifancaf Itec: Proffesiynol ac Angerddol
Wrth drosglwyddo o ddysgwr Jobs Growth Wales+ i weithwr llawn amser, mae Tayana Martelette, 16, wedi cael ei chyflogi gan Itec fel Cefnogwr Addysg Ychwanegol ar gyfer ganolfan Caerdydd. Mae’r astudiaeth yma yn dangos gallu a datblygiad Tayana wrth iddi ddod ag angerdd a phrofiad bywyd go iawn i’r rôl.
Gan ei fod hi wedi wynebu heriau gyda dyslecsia a diffyg cefnogaeth yn ystod ei haddysg ei hun, mae Tayana yn awyddus i sicrhau nad yw eraill yn wynebu’r un rhwystrau.
Mae ei mewnwelediad personol yn golygu bod ei chydymdeimlad a dealltwriaeth yn disgleirio trwy’r cymorth proffesiynol o ansawdd uchel a roddir i’w chyd-ddysgwyr. Nid ond bresenoldeb dibynadwy a chefnogol i ddysgwyr yn unig yw Tanaya, ond hefyd mae hi’n gyfathrebwr rhagorol sy’n gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr ledled y tîm.
Cefndir:
“Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n cael trafferth dysgu. Roedd darllen a phrosesu gwybodaeth yn anodd trwy gydol mwyafrif o fy mywyd ysgol. Cymerodd hyd at Flwyddyn 11 i mi gael diagnosis dyslecsia.
Hyd yn oed ar ôl y diagnosis, ni chefais unrhyw gefnogaeth yn yr ysgol, ac ni chafodd unrhyw un arall gyda anghenion dysgu ychwanegol gefnogaeth chwaith. Cafom ni gyd ein hanwybyddu. Felly, dyna phryd nes i benderfynnu fy mod i am fod yn gefnogwr addysg ychwanegol. Dwi eisiau cynnig cefnogaeth 1-1 fel bod pob un yn gwybod nad ydynt ar eu pennau eu hunain.”
“Siaradais gyda’r ymgynghorydd gyrfaoedd ar y pryd a gofynnais sut y gallwn ddod yn gefnogwr 1-1, a rhoddodd hi sawl opsiwn gwahanol imi. Siaradodd hi am fynd i goleg i wneud Gofal Plant, Chwarae, Dysgu a Datblygiad, neu Cymorth ac Addysgu. Roeddwn i yn y coleg am tua mis, ond nid oeddwn i’n hapus. Doeddwn i ddim yn hoffi’r amgylchedd, doeddwn i ddim yn dod ymlaen gyda’r pobol ac nid oeddwn i’n teimlo’n dda iawn mewn amgylchedd ystafell ddosbarth gan fy mod i’n cael trafferth cofio gwybodaeth y ffordd yna. Gadewais y coleg a des i at Itec ac o’r cyfarfod cyntaf, roeddwn i’n ei garu.”
Twf o fewn Itec:
Roedd Itec yn amlwg y lle iawn i Tayana wrth iddi ddechrau ymgartrefu ac ymateb i ddysgu o’r cychwyn. Dywedodd hi, “Fel dysgwr, ar y dechrau roeddwn i’n swil iawn ac yn dawel ond byddwn yn dal i fynd adre ac yn dweud wrth fy nhad, ‘Oh, ces i ddiwrnod mor dda. Roedd hi’n ddiddorol iawn.’” Roedd Tayana yn ddysgwr ar raglen Jobs Growth Wales+ yn Itec am ond 3 mis, yn ystod y cyfnod hwnnw fe’i hadnabyddwyd am ei ddawn a’i hannog tuag at gychwyn ei yrfa.
“Yn ystod gweithdy gyrfaoedd, roedd fy nhiwtor Cath yn darllen fy CV gyda fi, a dywedodd, ‘Pam na wyt ti’n gwneud cais am swydd tymor penodol yn Itec?’. Cefais y cyfweliad ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Ac ar yr un diwrnod â’r cyfweliad, galwodd Anthony fi yn ôl i’r swyddfa a dywedodd wrthaf bod nhw’n mynd i fy nghyflogi. Roeddwn i’n hapus iawn ac yn gyffrous.”
Dywedodd Anthony Mapstone, Rheolwr Ardal JGW+, “Roedd yn amlwg bod gan Tayana sgiliau ac angerdd naturiol am gefnogi pobl o’r cychwyn yn ei hamser fel dysgwr. Er ei bod hi’n ymddangos fel naid i rai, mae hi’n lliwio’n berffaith i’r rôl o gefnogwr addysg ychwanegol ac dyna’n union beth rydym ni’n ei wneud yn Itec; helpu pobl i gychwyn eu gyrfaoedd a symud ymlaen gyda’r cymorth iawn iddynt. I Tayana, mae hynny’n golygu rhoi cyfle iddi wneud yr hyn y mae hi’n teimlo’r galw arni i’w wneud ac mae hi’n ased gwych i dîm Itec ym Mryste.
Bywyd yn y gweithle:
Mae bywyd yn y gweithle wedi bod yn esblygu’n esmwyth i Tayana wrth iddi sicrhau cydbwysedd wrth sefydlu ffiniau a defnyddio ei phrofiad a’i chyfeillgawrch. Dywedodd, “Mae llawer o’r dysgwyr rwy’n eu cefnogi yn 16, yr un oed â fi, ac mae dysgwyr yn fy nosbarth a dosbarthau eraill wedi cysylltu â mi’n gyflym iawn, er ni siaradais â nhw pan oeddwn i’n ddysgwr. Mae nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu siarad â mi am lawer o bethau nad ydynt efallai’n gyfforddus yn trafod ag aelod arall o staff. Dwi yn aelod o’r staff swyddogol; mae hyn yn berthynas proffesiynol, ond mae’n braf gweld eu bod nhw’n ymddiried ynddo fi ac yn teimlo eu bod nhw’n gallu siarad â fi.” Mae Tayana yn ysbrydoli ei thîm wrth iddi gario ei phrofiadau positif a’i phrofiadau anodd gyda hi, gan eu defnyddio i dyfu a chyrraedd lleoedd uwch yn ei chymhwysiad newydd. Ond yn 16, mae maddeuant ac agwedd Tayana wedi creu clymau cryf gyda cydweithwyr.
Dywedodd Cathryn Allan, cyn-diwtor ieuenctid Tayana, sydd bellach yn gydweithiwr, “Rwy’n hynod o falch o Tayana a’r twf gwych a ddangosodd hi dros y misoedd diwethaf. Mae ei thaith hi wedi bod yn ysbrydolus ofnadwy. Mae Tayana wedi dangos llawer o hunan hyder ac roedd hyn yn amlwg yn ein trafodaethau 1-i-1. Mynegodd ddiddordeb brwd mewn gweithio gyda dysgwyr SEN, ac mae’r brwdfrydedd hwn ond wedi tyfu wrth i ni adolygu ei CV a’i chyfeirio at rôl o fewn ein cwmni. “Roedd paratoad a pherfformiad Tayana yn ystod ei chyfweliad yn ardderchog, a throsglwyddodd o ddysgwr i aelod o staff yn llyfn. Mae ei hymrwymiad a’i angerdd nid ond wedi helpu hi i adeiladu perthynas da gyda’i dysgwyr ond hefyd wedi ei harwain i gynnig cymorth yn gyson sy’n anelu dros ofynnion ei ddisgrifiad swydd.”
Mae dylanwad Tayana yn ymestyn dros ei rhyngweithiadau uniongyrchol â dysgwyr; mae hi wir wedi ysbrydoli ein dysgwyr a staff y ganolfan. Mae ei siwrnai yn dyst i beth a gellir ei gyflawni gydag ymrwymiad ac angerdd, ac mae hi wedi gosod safon i ni i gyd anelu at. Mae stori Tayana yn atgof bwerus o’r effaith y gall unigolyn ei gael ar ein canolfan, ac rwy’n falch o wedi cael gweld ei thyfiant a bod hi’n rhan o’n tîm gwych.

Barod i gweithio?
Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!
Sut Gallwn Ni Helpu Chi
Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr
Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.
Cyrsiau Hyfforddi Masnachol
P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.
Prentisiaethau am Bawb
Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.