Steel Town Coffee X Itec

Cwmni Coffi Steel Town: Buddsoddi mewn Pobl Ifanc ar gyfer Dyfodol Cryfach

Roedd gweithio mewn partneriaeth â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ Itec yn ffit naturiol ar gyfer yr entrepreneur ffyniannus Ryan Morgan. Mae tîm o swyddogion cyflogadwyedd ymroddedig Itec yn cydweithio â busnesau lleol i greu cyfleoedd i bobl ifanc, gan eu helpu i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle a dechrau ar yrfaoedd gwerth chweil. I gyflogwyr, gall cynnig profiad gwaith ddod ag angerdd a momentwm newydd i’r busnes yn ogystal ag ysbrydoli cronfeydd talent a gweithluoedd lleol ifanc ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae taith Ryan ei hun i’w lwyddiant presennol yn berchen ar ddau salon gwely haul, siop barbwr a Steel Town Coffee Company, yn un o wytnwch a gwaith called.

Mae e bellach wedi ymrwymo i ysbrydoli oedolion ifanc i dorri trwy eu rhwystrau eu hunain a gwireddu eu llawn botensial.
Mae Ryan wedi cynnig cyfle i dri o ddysgwyr Twf Swyddi Cymru+ Itec gwblhau lleoliadau gyda Cwmni Coffi Steel Town, lle maen nhw nid yn unig yn cael profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith deinamig ond hefyd yn elwa ar ei fentoriaeth, arweiniad, a mewnwelediadau amhrisiadwy i redeg busnes llwyddiannus. Dywedodd, “Rwy’n mwynhau cefnogi fy nghymuned drwy roi cyfle i bobl ifanc gael gwaith”.
Dysgwyr Twf Swyddi Cymru+

Maddison-LeeTreagus
Ymunodd Maddison â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ Itec ym mis Awst 2024, wedi’i hysgogi gan awydd i feithrin ei sgiliau ac ehangu ei rhagolygon gyrfa. Gan gydnabod gwerth profiad ymarferol, gosododd ei bryd ar leoliad lletygarwch i helpu i gyflawni ei nodau. Trwy ei lleoliad yn Coffi Steel Town, mae Maddison wrthi’n gweithio tuag at gwblhau ei chymhwyster Lletygarwch Lefel 1 gydag Itec, gan ennill arbenigedd ymarferol a mewnwelediadau amhrisiadwy o’r diwydiant ar hyd y ffordd.

Daniel Marc Jones
Cydnabu Daniel mai amgylchedd gwaith cyflym, ymarferol oedd yr union beth yr oedd ei angen arno i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa. Wedi’i gyffroi gan y cyfle, dilynodd yn eiddgar leoliad gwaith yn Goffi Steel Town, busnes lleol ffyniannus sydd wedi’i leoli’n gyfleus ger ei gartref. Gyda diddordeb brwd mewn archwilio’r diwydiant lletygarwch, gwelodd Daniel hwn fel y cyfle perffaith i ennill profiad gwerthfawr a phenderfynu a oedd yn addas ar ei gyfer. O dan arweiniad a mentoriaeth Ryan, mae wedi bod yn mwynhau ei leoliad yn fawr ac yn rhannu: “Rwyf wrth fy modd yn cael mentor fel Ryan i edrych lan i.”

Kabu Steed-Forsyth
Mae taith Kabu gyda Ryan a Coffi Steel Town wedi bod yn hynod gadarnhaol. Ar ôl sawl wythnos o brofiad gwaith gwerthfawr, cynigiwyd cyflogaeth iddi yn fuan ar ôl ei phen-blwydd yn 20 oed. Mae hyn yn amlygu ymroddiad Ryan i feithrin cyfleoedd gweithle cefnogol a pharhaol i bobl ifanc.

Mae Ruth Sainsbury, Arweinydd Tîm Swyddog Cyflogadwyedd Itec yn rhannu effaith gadarnhaol gweithio cyflogwyr fel Ryan, “Mae’n wych gallu dod o hyd i gyflogwyr cefnogol fel Ryan sydd wedi croesawu ein dysgwyr ac sy’n gallu eu cefnogi fel mentor. I’n dysgwyr ac i gymuned Port Talbot mae Ryan yn deall y rhwystrau y mae oedolion ifanc yn eu hwynebu yn y gymuned, ac mae’n fodlon eu harwain lle bo modd a darparu cyfleoedd cyflogaeth.

Mae Itec Sgiliau a Chyflogaeth yn estyn diolch diffuant i Ryan am ei ymroddiad diwyro i gefnogi ein cenhadaeth o drawsnewid bywydau er gwell.

Barod i gweithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru am pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Dysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

P’un a ydych am archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau am Bawb

Mae cyfranogwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau