Scarlett Barry

O Bryder i Lwyddiant: Siwrne Gwytnwch Scarlett

Daeth Scarlett Oliver Barry i Itec yn gyntaf yn Orffennaf 2024, gyda’r nod i ddechrau ei rhaglen. Er yr oedd hi ‘n angerddol iawn, roedd ei phryder yn mor ddifrifol nid oedd hi’n medru cychwyn. Teimlodd sefyllfaoedd dyddiol yn llethol, ac roedd hyd yn oed mynd i mewn i’r adeilad yn ormod ar y pryd.

Ail-ymunodd hi yn Chwefror 2025, yn benderfynol i drio eto. Arhosodd ei phryder yn andros o uchel i’r pwynt bu rhaid i staff cefnogi hi o du allan i’r canolfan trwy gydol ei ymweliadau cyntaf. Cafodd hi bryder a phwl o banig yn gyson, a oedd yn gwneud hi’n anodd cymryd rhan. Erbyn Ebrill 2025, bu rhaid iddi hi adael y rhaglen unwaith eto oherwydd y straen emosiynol.

Yn Fehefin 2025, wnaeth hi’r penderfyniad dewr i ddod yn ôl. Tro yma, gydag anogaeth gyson a chefnogaeth strwythuredig, wnaeth i ddechrau gweithio gyda staff i ddeall a rheoli ei phryder. Trwy strategaethau wedi’i theilwra a mecanweithiau ymdopi, tyfodd ei hyder a gwytnwch yn raddol.

Ymddangosodd ei chynnydd yn glir iawn pan ddechreuodd ei phrofiad mewn cartref angladd. Gwelodd y tîm ei thosturi, aeddfedrwydd ac ymrwymiad. Mae adborth nhw wedi bod yn andros o bositif, wnaethon nhw garu cael hi ar y profiad, ac mae hi nawr yn rhan werthfawr o dîm nhw.

Heddiw, mae hi bron yn anadnabyddadwy o’r person ifanc a chyrhaeddodd Itec.

Er ei bod dal yn teimlo bach o bryder, rŵan mae hi’n defnyddio technegau ymdopi a wnaeth hi ddysgu i reoli’r pryder yn effeithiol. Tyfodd ei hyder, cryfhaodd ei annibyniaeth, a rŵan mae hi’n llwyddo yn ei phrofiad.

This is an image of a learner (Daryll at ForFarmers).

Barod i weithio?

 

Mae gennym ni cyfleoedd lawn amser a rhan amser ar gael efo cyflogwyr lleol dros De Cymru ar gyfer pobl ifanc 16-19 mlwydd oed. Os ydych chi’n barod i weithio, pwyswch y botwm isod!

Sut Gallwn Ni Helpu Chi

Cyfleoedd Gyrfa i Ddysgwyr

Mae ein strand Cyflogaeth Twf Swyddi Cymru+ yn eich galluogi i ddod o hyd i swydd amser llawn neu ran-amser sydd wedi’i theilwra ar eich cyfer chi.

Cyrsiau Hyfforddi Masnachol

Os ydych chi eisiau archebu cwrs hyfforddi i chi’ch hun, cydweithiwr neu dîm cyfan, gallwn gyflwyno mewn arddull sy’n addas i chi. Nid yw’r rhain yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg.

Prentisiaethau i Bawb

Mae dysgwyr yn ennill arbenigedd yn y diwydiant ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (Lefel 2-5) wrth dderbyn cyflog.

Ein Achrediadau